Mae disgwyl glaw a thywydd garw ledled y wlad dros y penwythnos, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhybuddio bod posib am lifogydd.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am lam trwm dros ran fwyaf o’r wlad, gyda llifogydd yn debygol.

Bydd gweithwyr brys Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicrhau bod amddiffynfeydd a gwteri mewn cyflwr da, er mwyn gwarchod tai a phobol.

Dyweda Sean Moore ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru bod y “tywydd garw sydd wedi ei ragweld yn debygol o achosi llifogydd ar hyd a lled y wlad dros y penwythnos, felly rydym yn argymell bod pawb yn cadw llygad ar rybuddion llifogydd yn eu hardaloedd.

“Rydym yn cydweithio â’r gwasanaethau brys a’r awdurdodau lleol i leihau’r perygl.

“Rydym eisiau i bobol fod yn ymwybodol o beryglon llifogydd.”

Pwysleisia “na ddylai pobol geisio cerdded neu yrru trwy dywydd garw, oni bai eu bod yn cael cyfarwyddyd gan y gwasanaethau brys i wneud hynny.”