Mae gwasanaethau ar-lein Prifysgol Aberystwyth yn parhau i fod yn “annibynadwy” yn ôl y brifysgol.

Yn dilyn “toriad rhwydwaith sylweddol” bore ddoe (Hydref 1) mae mynediad i wasanaethau technoleg gwybodaeth y Brifysgol wedi eu cyfyngu.

Mewn diweddariad, dywedodd Prifysgol Aberystwyth bod y gwasanaethau wedi eu hadfer ond bod staff gwasanaethau gwybodaeth y brifysgol yn parhau i ymchwilio.

“Tra rydym yn parhau i ymchwilio i’r problemau, dylid ystyried y gwasanaeth yn annibynadwy.

“Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd, a diolch i chi am eich amynedd.”

Mae’n debyg i’r problemau effeithio ar wasanaethau rhwydwaith craidd Prifysgol Aberystwyth gan gynnwys ffonau, system VPN (rhwydwaith rhithwir preifat) y brifysgol, a’r holl wasanaethau sy’n ddibynnol ar y rhyngrwyd gan gynnwys dysgu ar-lein.

Dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb

Daw hyn wedi i Brifysgol Aberystwyth atal dysgu wyneb yn wyneb dros dro ddechrau’r wythnos yn sgil pryder am achosion o Covid-19 ymhlith myfyrwyr.

Mae dysgu wyneb yn wyneb bellach wedi ail ddechrau i fyfyrwyr uwchraddedig.

Er hyn mae is-raddedigion yn parhau i gael eu dysgu ar-lein tan ddydd Llun (Hydref 5) ac wedi eu heffeithio gan y problemau technegol.