Mae Prifysgol Aberystwyth wedi rhoi gwybod i fyfyrwyr ei bod wedi penderfynu gohirio dysgu wyneb yn wyneb.
Roedd disgwyl i gyfuniad o ddarlithoedd ar-lein a wyneb yn wyneb ddechrau yn y Brifysgol heddiw (Dydd Llun, Medi 28).
Daw’r penderfyniad wedi i rai myfyrwyr yn y Brifysgol brofi’n bositif am y coronafeirws.
‘Penderfyniad anodd’
“Yn dilyn trafodaethau pellach heno (Medi 27) gyda phartneriaid lleol ynglŷn â’r risg cynyddol o ledaenu Covid-19, rydym wedi gwneud y penderfyniad i ohirio dysgu wyneb yn wyneb dros dro”, meddai’r Brifysgol mewn ebost at fyfyrwyr.
“Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd sydd yn rhannol gysylltiedig â’r ansicrwydd i ba raddau y mae’r feirws wedi lledaenu yn ein cymuned.
“Y penwythnos hwn rydym wedi derbyn cadarnhad o’r achosion cyntaf yn ein cymuned o fyfyrwyr.
“Fe fyddwn yn adolygu ymhellach sut y gallwn symud ymlaen gyda’n cynlluniau i ddysgu wyneb yn wyneb wrth i ni gael rhagor o wybodaeth.”
‘Gwerth am arian’
Wythnos ddiwethaf dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ei bod hi’n disgwyl i brifysgolion Cymru ddarparu cyfuniad o ddarlithoedd a seminarau wyneb yn wyneb a dros y we.
“Bydd holl brifysgolion Cymru yn cyflwyno dysgu cyfunol yn ystod y cyfnod hwn”, meddai wrth y Senedd.
Achosion
Cofnodwyd 4 achos newydd o’r feirws yng Ngheredigion gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe (Medi 27) gan fynd a’r cyfanswm i 102.
Ceredigion sydd yn parhau â’r nifer lleiaf o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru.