Roedd Donald Trump wedi talu 750$ (£578) yn unig mewn treth incwm ffederal yn y flwyddyn roedd yn ymgeisio am yr arlywyddiaeth a’i flwyddyn gyntaf yn y Tŷ Gwyn, yn ôl adroddiadau yn The New York Times.

Mae Donald Trump wedi bod yn frwd iawn dros gadw ei fanylion treth yn gyfrinachol a fe yw’r unig arlywydd sydd heb eu cyhoeddi. Nid yw’r Arlywydd wedi talu trethi incwm ffederal am 10 o’r 15 mlynedd ddiwethaf.

Pan fu’n ymgyrchu am yr arlywyddiaeth roedd yn filiwnydd ac yn ŵr busnes llwyddiannus.

Mewn cynhadledd newyddion yn y Tŷ Gwyn roedd yr Arlywydd Trump wedi wfftio’r honiadau gan ddweud ei fod yn talu trethi, er nad oedd wedi manylu ar hynny.

Dywedodd y bydd gwybodaeth am ei drethi “yn cael ei datgelu” er nad yw wedi rhoi amserlen ar gyfer hynny.

Daw’r adroddiadau yn The New York Times cyn y ddadl arlywyddol gyntaf ddydd Mawrth, ac wythnosau’n unig cyn yr etholiad yn erbyn y Democrat Joe Biden.