Yn India, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws sydd wedi’u cadarnhau wedi cyrraedd 6 miliwn.

Roedd Gweinidog Iechyd y wlad wedi adrodd bod 82,170 o achosion newydd o’r coronafeirws yn y 24 awr ddiweddaf, gan olygu bod cyfanswm o 6,074,703 o achosion erbyn hyn.

Cafodd 1,039 o farwolaethau hefyd eu cofnodi yn yr un cyfnod, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau yno i 95,542.

Mae adroddiadau am achosion newydd yn digwydd yn gynt yn India nag yn unrhyw le arall yn y byd.

India sy’n debygol o fod y wlad sydd wedi’i heffeithio fwyaf gan y pandemig yn ystod yr wythnosau nesaf, gan fod yn waeth na’r Unol Daleithiau lle mae mwy na 7.1 miliwn o achosion o’r firws wedi’u cofnodi.

Tra bod y rhan fwyaf o farwolaeth yn India yn parhau i fod yn y dinasoedd mawr yn bennaf, mae ardaloedd trefol llai hefyd wedi gweld cynnydd mewn achosion.

Er bod nifer yr achosion yno’n cynnydd, mae gan India y nifer uchaf o gleifion (82%) sydd wedi gwella o’r coronafeirws o’i gymharu â gwledydd eraill y byd.

Ond mae arbenigwyr iechyd wedi rhybuddio am y gall y firws ledaenu ymhellach yn ystod cyfnod gwyliau crefyddol y wlad, lle mae nifer fawr o bobl yn dod ynghyd.