Gall pobol yn Lloegr wynebu dirwy o hyd at £10,000 am beidio hunan ynysu.

Daw hyn wedi i astudiaeth a gomisiynwyd gan y llywodraeth ddarganfod mai dim ond 18% o bobol oedd â symptomau’r coronafeirws oedd yn hunan ynysu.

O ddydd Llun (Medi 28) ymlaen, bydd hi’n drosedd i beidio â chydymffurfio â’r rheolau.

£1,000 yw’r ddirwy gyntaf a bydd yn codi i hyd at £10,000 ar gyfer troseddwyr difrifol.

Mae’r gyfraith yn berthnasol i bobol sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws, neu sydd wedi cael gwybod gan system brofi ac olrhain y Gwasanaeth Iechyd ei bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â’r feirws.

Mae hefyd yn anghyfreithlon rhoi gwybodaeth anghywir am gysylltiadau agos.

Dywedodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn seiliedig ar “wybodaeth leol” bydd yr heddlu’n gwirio os yw pobol yn dilyn y rheolau mewn ardaloedd ble mae nifer uchel o achosion a ble mae grwpiau risg uchel.

Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gobeithio y bydd y dirwyon newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.

Mae gan y llywodraethau datganoledig bwerau i osod eu rheolau coronafeirws eu hunain.

Er nad yw’r un dirwyon wedi eu cyflwyno yng Nghymru, bydd trafodaethau’n cael eu cynnal wythnos yma ynghylch y posibilrwydd o ddirwyon cyn yr adolygiad nesaf o’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru.

Mae 1.8 miliwn o boblogaeth Cymru wedi eu heffeithio gan gyfyngiadau lleol yn y de.

Yn y cyfamser, mae ysgrifennydd iechyd yr Alban wedi dweud y bydd y mater yn cael ei drafod yn fuan.