Bydd Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy’n teithio o Flaenau Ffestiniog i Landudno, yn ail agor heddiw (Medi 28) weid misoedd o fod ynghau oherwydd llifogydd.

Achoswyd difrod sylweddol i’r cledrau yn ystod storm Ciara fis Chwefror.

Ers hynny, bysiau sydd wedi bod yn cludo teithwyr i fyny ac i lawr y dyffryn.

Mae Network Rail wedi buddsoddi £2.2m ar y gwaith atgyweirio gan osod 16,000 o dunelli o gerrig bob ochr i’r trac rhwng Tal y Cafn a Llanrwst i geisio atal llifogydd yno.

Yn ôl Network Rail mae’r cynllun hwnnw wedi gweithio.

Pan darodd Storm Francis yr ardal ddiwedd mis Awst ni ddifrodwyd y rheilffordd yn ystod y tywydd eithafol.

Difrod i Reilffordd Dyffryn Conwy fis Chwefror

‘Cyswllt hanfodol’

“Mae llinell Dyffryn Conwy yn gyswllt hanfodol i lawer o gymunedau yng ngogledd Cymru, a bydd y buddsoddiad hwn yn gwella gwytnwch y rheilffordd hanfodol yma yn ystod tywydd eithafol”, meddai Chris Heaton-Harris, y Gweinidog Rheilffyrdd.

“Bydd uwchraddio’r amddiffynfeydd rheilffordd yn helpu i atal cau’r cledrau am gyfnod hir, osgoi gwasanaethau bysiau rhwystredig, a darparu amserlen fwy dibynadwy i bobol.”

Diolchodd Martyn Brennan, cyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru i gwsmeriaid am eu hamynedd yn ystod y misoedd diwethaf.

“Hoffwn ddiolch i gwsmeriaid am eu hamynedd a gofyn iddynt barhau i wirio gwasanaethau ar-lein. Byddwn yn parhau i ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth gan ddefnyddio bysiau newydd”, meddai.

“Tra bod hyfforddiant gyrwyr hanfodol yn digwydd, bydd Network Rail hefyd yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y lein, fel ailosod y cledrau.”