Bydd Michael Gove, Gweinidog Cabinet Llywodraeth Prydain, yn treulio’r wythnos yn trafod a cheisio cael cytundeb fasnach ôl-Brecsit gyda’r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.
Bydd Michael Gove yn cyfarfod Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maros Sefcovic, er mwyn trafod sut i weithredu’r Cytundeb Ymadael.
Daeth eu trafodaethau diwethaf i ddiweddglo chwerw, wedi i Maros Sefcovic fynnu bod rhaid i Lywodraeth Prydain gael gwared ar elfennau dadleuol o’r cytundeb erbyn diwedd mis Medi neu wynebu cosb am dorri cyfraith ryngwladol.
Bwrodd Llywodraeth Boris Johnson yn ei flaen â Bil y Farchnad Fewnol, er gwaethaf y bygythiadau gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Bydd Aelodau Seneddol San Steffan yn trafod y Bil fory (Medi 29).
Hawliau dinasyddion, Gogledd Iwerddon a Gibraltar
Mae disgwyl i Maros Sefcovic annerch y cyhoedd brynhawn heddiw (Medi 28) ar ôl y trafodaethau diweddaraf.
Am y nawfed tro bydd trafodaethau ynglŷn â pherthynas Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn cael eu cynnal ym Mrwsel fory (Medi 29), a hynny cyn i’r cyfnod trosgwlyddo Brecsit ddod i ben ar Ragfyr 31.
Nes hynny, mae Prydain yn dilyn rheolau’r Undeb Ewropeaidd, ac yn rhan o’r Farchnad Sengl.
Bydd y ddwy ochr yn trafod hawliau dinasyddion, a’r drefn ar gyfer Gogledd Iwerddon a Gibraltar.
Taioseach Iwerddon wedi anobeithio
Daw’r trafodaethau wedi i Taoiseach Iwerddon, Micheal Martin, ddweud “nad yw’n ffyddiog” y daw’r ddwy ochr i gytundeb masnach.
Dywedodd Micheal Martin fod “potensial i ddod i gytundeb,” ond rhybuddiodd fod Bil y Farchnad Fewnol wedi “erydu’r ymddiriedaeth,” gan ei bod yn caniatáu i Brydain dorri cyfraith ryngwladol,
Pan ofynnwyd i Micheal Martin a oedd yn credu fod cytundeb masnach rydd yn debygol, meddai: “Nid wyf yn obeithiol, â bod yn onest.
“Er gwybodaeth, mae Llywodraeth Iwerddon yn llunio ein cyllideb mewn tair wythnos ar y sail na fydd cytundeb Brecsit.
“Rydym yn rhybuddio busnesau am y realiti ofnadwy hwnnw,” pwysleisiodd.
“Credaf mai araf fu’r cynnydd yn ystod y trafodaethau hyd yn hyn, a chredaf fod posib dod i gytundeb yn dal i fod.
“Yn fy marn i dod i gytundeb ydy’r peth call a synhwyrol i wneud, a chredaf fod gennym ni i gyd fel gwleidyddion ddyletswydd i’r bobol rydym yn eu cynrychioli – ac yn nhermau Brecsit golyga hynny fod cyn lleied o niwed ag sy’n bosib yn cael ei wneud i weithwyr, cyflogwyr, busnesau a’r economi.”