Mae’r adroddiad diweddaraf i fethiannau mewn unedau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn nodi bod yr ymchwiliad wedi ei ymestyn i 160 achos gwahanol.

Bydd rhieni a effeithiwyd yn cael gwybod am ganfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol yn yr Hydref.

Cafodd gwasanaethau mamolaeth mewn ysbytai ym Merthyr Tudful a Llantrisant eu rhoi o dan fesurau arbennig y llynedd.

Rhwng Ionawr 2016 a Medi 2018 daeth i’r amlwg bod digwyddiadau clinigol heb eu hadrodd, gan gynnwys marw-enedigaethau, marwolaethau cynenedigol a niwed posibl i famau a babanod newydd-anedig.

Canfuwyd bod mamau wedi “wynebu profiadau erchyll a gofal gwael”.

Oherwydd “difrifoldeb y sefyllfa” mae Llywodraeth Cymru yn cynnal “ymchwiliad allanol annibynnol” o waith y Bwrdd Iechyd.

‘Ymdopi’n dda’

Eglurodd yr adroddiad fod gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd bellach yn “ymdopi’n dda” a hynny er y pwysau ychwanegol oherwydd Covid-19.

“Rhagwelir y bydd y Panel yn dechrau ysgrifennu at y menywod a’r teuluoedd sy’n rhan o’r categori marwolaeth a morbidrwydd ymysg mamau ddiwedd yr hydref i roi gwybod iddynt am eu canfyddiadau”, meddai’r adroddiad diweddaraf.

“Rhagwelir hefyd y bydd y panel yn cynhyrchu ei adroddiad ‘diwedd cam’ cyntaf tua diwedd 2020, a fydd yn crynhoi’r prif themâu sydd wedi codi o’r categori marwolaeth a morbidrwydd ymysg mamau.”

Dywed yr adroddiad fod y bwrdd iechyd wedi cyflawni 53 o’r 79 o argymhellion.

Er hyn nid yw ymchwilwyr wedi cael ymweld â’r ysbytai oherwydd y coronafeirws ac yn dibynnu yn llwyr ar dystiolaeth bapur a sgyrsiau gydag uwch reolwyr a chlinigwyr.

‘Cam pwysig ymlaen’

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod y bwrdd iechyd wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau o fewn gwasanaethau mamolaeth, er gwaethaf amgylchiadau “anodd a heriol” y pandemig.

“Mae’r Panel a’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo o hyd i fwrw ymlaen  â’r newidiadau mewn gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau newydd enedigol y mae menywod, teuluoedd a’r gymuned ehangach yn eu disgwyl a’u haeddu, er gwaethaf y sefyllfa ddigynsail sydd ohoni”, meddai.

“Dros yr wythnosau nesaf, mae’r Panel yn rhagweld bod mewn sefyllfa i ddechrau ysgrifennu at fenywod a theuluoedd yn y categori mamau 2016-2018 i rannu eu canfyddiadau o’r adolygiadau unigol.

“Mae hyn yn gam pwysig ymlaen tuag at roi atebion i fenywod a theuluoedd a allai fod wedi cael profiad negyddol o wasanaethau mamolaeth ac rwyf yn croesawu’r cynnydd parhaus hwn.”

‘Amser gofidus iawn’

Dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, y bydd yn “amser gofidus iawn” pan fydd rhieni yn cael gwybod am ganfyddiadau’r ymchwiliad.

Mae wedi galw am gefnogaeth ychwanegol i’r rheini hyn.

“Ni allaf hyd yn oed ddychmygu beth mae’r rhieni, y mae eu bywydau wedi cael eu heffeithio mor greulon, wedi bod yn mynd drwyddo dros y blynyddoedd diwethaf.

“Er fy mod yn gobeithio y bydd y canfyddiadau’n cynnig y gwir iddyn nhw, mae’n mynd i fod yn amser gofidus iawn iddyn nhw.

“Mae angen y gefnogaeth arnyn nhw nawr gymaint ag o’r blaen, oherwydd bydd hyn yn siŵr o ailagor hen glwyfau yn ymwneud â marwolaeth eu plentyn.”