Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol ger Caerfyrddin ddydd Sadwrn (Medi 26).

Tua 9:40yh cafodd cerddwr ei daro gan fan VW Transporter, oedd yn teithio tua’r gorllewin, ar yr A40 ger cyffordd Llangynog, Caerfyrddin.

Bu farw’r dyn 20 oed o ganlyniad i’w anafiadau.

Mae’n ymddangos fod y cerddwr wedi gadael ei gar, Seat du, ar ochr y ffordd ychydig cyn iddo gael ei daro yn dilyn gwrthdrawiad ar wahan.

Dim ond y Seat du oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad cyntaf.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd a gwybodaeth am y gwrthdrawiadau i gysylltu â nhw.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A40 ar y pryd, gan eu hannog i gysylltu â’r uned archwilio gwrthdrawiadau difrifol.