Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £140m ychwanegol i helpu busnesau i ddelio â heriau economaidd Covid-19 a Brexit.

O hwn, bydd £20m wedi’i glustnodi i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch a bydd £60m ychwanegol ar gyfer busnesau sydd wedi’u heffeithio gan gyfyngiadau lleol.

Eglurodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates byddai’r cyllid ychwanegol yn dod o Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â rhoi help ychwanegol i fusnesau sy’n dod o dan y cyfyngiadau lleol, y gobaith yw bydd y cyllid yn diogelu swyddi a helpu busnesau i ddatblygu yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd grantiau o £1,500 ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 ac sydd wedi dioddef yn sgil cyfyngiadau lleol.

Bydd grantiau o £1,000 ar gael i fusnesau llai sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai ac sydd wedi dioddef yn sgil y cyfyngiadau lleol.

‘Methu diogeli bob swydd’

“Bydd cam nesa’r gronfa, gwerth £140m, yn adeiladu ar sylfeini’r llwyddiant hwnnw gan ein helpu i ddiogelu swyddi a galluogi busnesau i barhau i ddatblygu a thyfu dros gyfnod anodd iawn.

Ken Skates

“Hefyd, mae rhan o’r gronfa wedi’i chlustnodi i helpu busnesau i ddygymod â chyfyngiadau lleol”, meddai Ken Skates.

“Mae’r help ychwanegol hwn wedi’i greu i ategu a chryfhau’r gefnogaeth a gyhoeddwyd gan y Canghellor wythnos ddiwethaf, gan ddangos unwaith eto bod Llywodraeth Cymru’n broactif yn ei hymdrechion i roi’r cymorth ariannol ychwanegol y gwyddom sydd ei angen ar ein busnesau a’n gweithwyr.”

Er hyn rhybuddiodd Ken Skates yn ystod cynhadledd i’r wasg nad oedd modd diogelu pob swydd.

“Dydyn ni ddim yn gallu diogelu pob swydd”, meddai.

“I wneud hynny byddai’n rhaid i ni gael llawer mwy o gyllid o San Steffan.”

‘Tawelu meddyliau busnesau’

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid hefyd wedi croesawu’r cyllid ychwanegol.

Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru

“Mae’r pecyn o gymorth rydym wedi’i roi i fusnesau Cymru wedi bod yn gwbl hanfodol a bydd ei bwysigrwydd yn parhau wrth inni symud at gam nesaf delio â’r argyfwng hwn”, meddai.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw’n rhoi’r tawelwch meddwl sydd ei angen ar fusnesau pan fo’i angen fwyaf arnynt.”

Ymateb y Ceidwadwyr

Russell George

Wrth ymateb i’r datganiad ar gam nesaf y Gronfa Cydnerthu Economaidd, dywedodd Gweinidog Cysgodol y Cedwadwyr dros yr Economi, Busnes a Seilwaith, Russell George AoS:

“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw am y cyllid ychwanegol i gefnogi busnesau yng Nghymru, gan ein bod ni’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru […] i ddyrannu’r holl gyllid sy’n gysylltiedig â busnes a ddarperir gan San Steffan, yn gynt, yn hytrach nag yn hwyrach.

“Rydym hefyd yn croesawu’r newyddion y bydd £60 miliwn yn benodol ar gyfer ardaloedd lle mae cloeon wedi’u hailosod, oherwydd mae angen eglurder ar y gymuned fusnes – yn enwedig busnesau bach a chanolig eu maint – o ran sut i gael gafael ar yr arian, ac mae’n hanfodol bod arian yn cyrraedd busnesau yr effeithir arnynt cyn gynted â phosibl.”

Ymateb Plaid Cymru

Dywedodd Plaid Cymru fod dwylo Llywodraeth Cymru “wedi’u clymu” ac “na all setliad datganolio presennol ymdopi ag effaith Covid-19”.

Helen Mary Jones

Dywedodd Helen Mary Jones, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi:

“Er fy mod yn croesawu unrhyw gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i fusnesau Cymru – ac mae’r pecyn hwn yn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r materion rwyf wedi bod yn eu codi gyda’r Gweinidog, yn enwedig yr angen i gefnogi busnesau y mae cloeon lleol yn effeithio arnynt – mae’n amlwg bod eu dwylo wedi’u clymu ac na all y setliad datganoli presennol ymdopi ag effaith economaidd Covid-19. Byddai ailnegodi’r cytundeb cyllidol yn gwneud llawer i ddelio â’n gallu i ymateb i’r mathau hyn o argyfyngau.

“Ar ôl cyfaddef nad oes gennym rym Llywodraeth y DU, mae amharodrwydd Llywodraeth Cymru i negodi rhagor o bwerau yn anodd ei ddeall. Dylai Llywodraeth Cymru o leiaf fod yn pwyso am godi cyfyngiadau benthyca dros dro, fel y gall Cymru fenthyca i fuddsoddi i sicrhau adferiad.”