Mae undebau wedi galw ar Boris Johnson i sicrhau fod myfyrwyr prifysgolion yn derbyn eu haddysg ar-lein yn lle dysgu wyneb yn wyneb yn sgil pryder am effaith cyfyngiadau clo Covid-19 ar fyfyrwyr.

Cyhuddodd Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) rai sefydliadau o fod yn “ystyfnig” wrth fynnu dysgu wyneb yn wyneb gan eu bod yn dibynnu ar rent neuaddau myfyrwyr.

Daw sylwadau’r undeb wrth i filoedd o fyfyrwyr orfod hunan-ynysu yn dilyn cynnydd sylweddol mewn achosion mewn prifysgolion megis yn Glasgow, Manceinion a Chaeredin.

Yng Nghymru mae achosion wedi eu cadarnhau ym Mhrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.

Honnodd Larissa Kennedy, Llywydd Undeb Genedlaethol y Myfyrwyr (NUS) fod myfyrwyr sydd yn hunan-ynysu yn cael eu “caethiwo” dan “amgylchiadau afiach” ac yn methu cael bwyd wedi ei ddanfon atynt.

Pryder am ystyfnigrwydd prifysgolion

Mewn llythyr at y Prif Weinidog, Boris Johnson, dywedodd Jo Grady, Ysgrifennydd Cyffredinol yr UCU, nad ydy’r undeb, sydd yn cynrychioli academyddion a staff prifysgolion, “yn barod i fentro gydag iechyd ein myfyrwyr, ein haelodau a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

“Mae’n amlwg y dylai dysgu ar-lein gael ei gyflwyno yn lle dysgu wyneb yn wyneb tra’r ydym yn y sefyllfa ansicr hon gyda’r feirws.

“Ond, rydym yn gweld gweithwyr mewn prifysgolion yn cuddio tu ôl i ganllawiau Llywodraeth Prydain ar gyfer y sector, gyda chryn amwysedd ynghlwm â’r term ‘cyfuno dysgu’.”

Ychwanegodd: “Tra bod Llywodraeth Prydain yn annog sectorau eraill i weithio o gartref i helpu i reoli lledaeniad y feirws, mae prifysgolion yn mynnu bod staff yn teithio i weithio yn y prifysgolion gan ddod wyneb yn wyneb â nifer o fyfyrwyr.

“O ystyried y perygl o ledaenu’r feirws drwy ddysgu wyneb yn wyneb, a drwy fyfyrwyr yn byw yn agos at ei gilydd, pam na wnaeth Llywodraeth Prydain fynnu bod dysgu wyneb yn wyneb yn cael ei leihau?

“Pam na wnaeth Llywodraeth Prydain ostwng nifer y myfyrwyr sy’n teithio i brifysgolion?” gofynnodd.

“Rydym yn bryderus fod rhai prifysgolion yn ystyfnig gan eu bod yn dibynnu ar rhent o neuaddau preswyl – a chan fod Llywodraeth Prydain yn gwrthod cymryd camau i gynorthwyo prifysgolion yn ariannol er mwyn sicrhau nad oes effaith negyddol arnyn nhw, ac er mwyn sicrhau na fydd swyddi yn diflannu.”

“Amgylchiadau afiach i gaethiwo myfyrwyr”

Mae Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru dan bwysau i sicrhau na fydd pobol ifanc yn gaeth i’w neuaddau preswyl dros y Nadolig yn sgil cynnydd mewn achosion Covid-19 ar gampysau.

Dywedodd Jo Grady y dylai myfyrwyr gael gadael eu llety a dychwelyd adref “heb ofn derbyn dirwy.

“Ni allwn adael i fyfyrwyr gael eu gorfodi i hunanynysu mewn neuaddau preswyl heb rwydwaith gefnogaeth gyfarwydd, na gadael i weithwyr gael eu gorfodi i weithio ar y campws pan fo’n bosib iddynt wneud hynny yn saff o gartref.”

Siaradodd Larissa Kennedy ar Good Morning Britain am yr amgylchiadau sydd yn wynebu rhai myfyrwyr: “rwyf yn clywed gan rai myfyrwyr ar draws y wlad fod Swyddogion Diogelwch yn sefyll tu allan i neuaddau, gan atal pobol rhag mynd a dod, a bod myfyrwyr yn cael eu hannog i beidio archebu bwyd i gael ei ddanfon.

“Mae’r brifysgol yn addo danfon bwyd iddyn nhw, ond nid yw’r bwyd wedi cyrraedd mewn rhai sefyllfaoedd, ac felly mae’r myfyrwyr wedi mynd ddiwrnod heb fwyd.

“Mae’n teimlo fel bod y rhain yn amgylchiadau erchyll i gaethiwo myfyrwyr ynddynt,” meddai Larissa Kennedy.

Pwysleisiodd y dylai pobol ddilyn canllawiau iechyd cyhoeddus, ond cwestiynodd cyfreithlonrwydd cadw myfyrwyr “wedi eu cau mewn adeiladau heb fynediad at adnoddau sydd eu hangen arnynt.”

Ad-daliadau am ffioedd dysgu?

Yn y cyfamser dywedodd Nicola Dandridge, Prif Weithredwr y Swyddfa Fyfyrwyr, y byddai’r Swyddfa’n “edrych yn fanwl” ar safon yr addysg sydd yn cael ei rhoi gan sefydliadau.

Wrth siarad â Radio 4 dywedodd fod rhaid i’r sefydliadau ddweud yn glir wrth fyfyrwyr beth fydd yr amgylchiadau dysgu, a’u hysbysu am unrhyw newidiadau.

“Ni allwn gael sefyllfa lle nad yw myfyrwyr yn gwybod beth sy’n digwydd, wedi eu cloi mewn neuaddau preswyl, a methu cael gafael ar fwyd,” meddai.

Pan ofynnwyd iddi a ddylai myfyrwyr dderbyn ad-daliad am eu ffioedd dysgu atebodd bod hynny’n “gwestiwn i’r Llywodraeth (Prydain).