Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gorfodi myfyrwyr i dreulio’r Nadolig ar eu campysau.
Wrth i brifysgolion ailagor y mis hwn, mae pryderon wedi’u codi ynghylch goblygiadau hynny o ran lledaeniad y coronafeirws.
Wrth siarad fore heddiw (Dydd Iau, Medi 24), dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Matt Hancock, na fyddai’n diystyru’r posibiliad o wahardd myfyrwyr rhag dychwelyd i’w cartrefi adeg gwyliau’r Nadolig.
Ac wrth drafod y mater raglen Good Morning ITV roedd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi ategu hynny.
“Byddwn yn sicr yn ystyried hynny,” meddai. “Wrth i bobol deithio ar draws y Deyrnas Unedig mae hynny’n cynyddu’r risg o’r feirws yn symud â nhw.
“Rydym yn adolygu ein rheoliadau pob tair wythnos. Felly gawn ni sawl cyfle rhwng nawr a mis Rhagfyr i benderfynu os dylwn [gyflwyno gwaharddiad] ai peidio.”
Pwysleisiodd mai mater datganoledig yw addysg uwch yng Nghymru, ond derbyniodd bod lle i ddadlau y dylai bod gan Gymru a Lloegr rheol debyg yn hyn o beth.
Matt Hancock ar y radio
Yn siarad ar raglen Today BBC Radio 4 dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Lloegr bod gwaharddiad yn bosibiliad, ond ategodd bod hynny ddim yn bendant o ddigwydd.
“O ran prifysgolion, rydym yn gweithio’n galed iawn â nhw i geisio gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn ddiogel, a’i bod hefyd yn medru derbyn eu haddysg,” meddai.
“Ond dw i wedi dysgu peidio diystyru pethau, ac un o’r heriau sydd gennym yn awr yw gwneud yn siŵr bod pawb mor saff ag sy’n bosib.
“Nid [gwahardd] yw ein nod,” meddai wedyn. “Dw i ddim eisiau rhoi’r argraff [mai dyna fydd yn digwydd]. Ond mae’n rhaid i ni weithio â phob posibiliad ar hyn o bryd.”
10 o’r gloch
O heno ymlaen fydd bwytai a thafarndai Cymru ddim yn cael gwerthu alcohol wedi 10.00yh.
Fydd hynny ddim o reidrwydd yn golygu bod rhaid i’r busnesau yma gau am ddeg ar ei ben, ac wrth siarad y bore ‘ma ar ITV wnaeth Mark Drakeford esbonio’r rheol ymhellach.
“Yng Nghymru fyddwch chi ddim yn medru prynu alcohol wedi 10 o’r gloch,” meddai.
“Ond bydd cyfnod o ryw 20 munud o hyd wedi hynny a fydd yn rhoi cyfle i bobol orffen eu prydau, gorffen eu diodydd, a gadael mewn ffordd drefnus.”
Holwyd beth fyddai’n digwydd pe bai rhywun yn prynu dwy botel o win am 9.59yh? Byddai hynny’n dibynnu ar “reolaeth dda’r dafarn neu fwyty” yn ôl y Prif Weinidog.