Mae’r Llywodraeth yn cael ei hannog i gyfathrebu’n well gyda busnesau wrth i Brexit agosáu.
Gyda llai na 100 diwrnod i fynd cyn cyfnod trosglwyddo Brexit, mae sefydliad Siambrau Masnach Prydain (BCC) yn dweud bod “nifer o gwestiynau” sydd angen eu hateb o hyd a bod busnesau’n ei chael hi’n anodd cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y grŵp busnes bod ei ymchwil yn dangos mai cyfran fechan o fusnesau sy’n paratoi ar gyfer y newidiadau arfaethedig a hynny oherwydd yr “heriau digynsail” sy’n wynebu cwmnïau ar hyn o bryd.
Mae llai na dau ymhob pum busnes wedi gwneud asesiad risg Brexit eleni o’i gymharu â 57% yn 2019, yn ôl y BCC.
Mae swyddogion yn galw am ail-afael mewn cyfarfodydd wythnosol rhwng uwch weinidogion i drafod y paratoadau ar gyfer busnesau.
Yn ôl y BCC mae 26 o gwestiynau sydd angen eu hateb. Maen nhw’n dweud nad oes eglurder am sut fydd bwyd a diod a fydd yn cael ei werthu yn yr Undeb Ewropeaidd a Gogledd Iwerddon yn cael ei labelu, a bod dim digon o ganllawiau ynglŷn â symud nwyddau o wledydd Prydain i Ogledd Iwerddon.
Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol BCC Adam Marshall bod busnesau yn wynebu heriau o sawl cyfeiriad – cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws, cynlluniau cymorth gan y Llywodraeth yn dod i ben, a diwedd “anhrefnus” i’r cyfnod trosglwyddo.
“Mae angen i’r Llywodraeth ail-ddechrau cysylltu gyda busnesau ar frys.. er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i’r afael a’r materion sy’n wynebu cwmnïau.”