Mae dyn 50 oed yn cael ei gadw yn y ddalfa ar ol cael ei arestio yn dilyn protest y tu allan i wersyll milwrol ym mhentref Penalun ger Dinbych-y-pysgod.
Mae’r dyn, sydd heb gael ei enwi, ac sydd ddim yn byw yn lleol, wedi ei gyhuddo o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.
Daw hyn yn dilyn dau ddiwrnod o brotestio tu allan i’r gwersyll sydd yn cael ei ddefnyddio fel lloches i ffoaduriaid.
Ddydd Llun cadarnhaodd y Swyddfa Gartref i’r grŵp cyntaf o hyd at 250 o geiswyr lloches symud i’r gwersyll.
‘Tensiynau’n uchel’
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys fod tua 40 o bobol wedi protestio nos Fawrth (Medi 22), a chafodd dyn 50 oed ei arestio tua 5.40yh.
“Rydyn ni’n deall bod tensiynau’n uchel yn y gymuned, ond roedd golygfeydd nos Lun yn peryglu pawb ac yn achosi braw”, meddai’r Uwcharolygydd Anthony Evans.
“Rydym wrthi’n adolygu cryn dipyn o luniau a dynnwyd o gamerâu corff ein swyddogion, o luniau a rannwyd ar gyfryngau cymdeithasol a gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill.
“Bydd unrhyw un a oedd yn cyflawni trosedd yn cael eu herlyn. ”
‘Croeso i Gymru’
Mewn ymateb roedd oddeutu 60 o brotestwyr gwrth hiliaeth ger y gwersyll fore Mercher (Medi 23) i groesawu’r ceiswyr lloches.
Roedd pobol yn dal arwyddion “croeso i Gymru” a “Stand Up to Racism”.
“Mae llawer o bobol eisiau helpu a bod o gymorth felly mae grwpiau bellach yn cael eu sefydlu i gydlynu’r gwaith hwnnw,” meddai Patrick Connellan ar ran y protestwyr gwrth hiliaeth.
“Byddwn yn parhau i wrthsefyll yr hiliaeth yma ac adeiladu cysylltiadau agosach â’r ceiswyr lloches a’r gymuned leol.”
Ymateb Mark Drakeford
Yn ystod cyfarfod llawn Senedd Cymru ddydd Mawrth, eglurodd y prif weinidog, Mark Drakeford, mai cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref, nid Llywodraeth Cymru, yw hyn.
Er i Angela Burns, AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, gwestiynu pa mor addas oedd gorllewin Cymru i dderbyn ceiswyr lloches roedd hi’n ffyddiog byddai pobol leol yn eu croesawu.
“Mae pobol Sir Benfro yn groesawgar, ac rydyn ni am wneud ein gorau i helpu’r bobol hyn, sydd eisoes wedi bod trwy gyfnod trawmatig iawn”, meddai.
Cyhuddodd Neil Hamilton o grŵp UKIP y Llywodraeth o fod yn “anghyfrifol” am adael i’r cynlluniau fynd yn eu blaen.