Mae dau heddwas wedi’u saethu yn Kentucky yn yr Unol Daleithiau wrth i brotestiadau yn dilyn marwolaeth y ddynes groenddu Breonna Taylor ddwysau ar draws y wlad.

Dywedodd pennaeth dros dro Heddlu Louisville, Robert Schroeder, fod un person yn y ddalfa a bod un o’r heddweision mewn cyflwr sefydlog ac yn cael llawdriniaeth, tra bod y llall yn effro ac yn sefydlog.

Mae’r protestwyr wedi bod yn gorymdeithio yn Louisville, dinas fwyaf Kentucky, yn galw am gyfiawnder i Breonna Taylor a phobl dduon eraill a laddwyd gan yr heddlu yn ystod y misoedd diwethaf.

Yn dilyn gwybodaeth anghywir cafodd Breonna Taylor ei saethu’n farw yn ei fflat mewn cyrch cyffuriau.

Cafodd y swyddog, Brett Hankison, oedd wedi tanio gwn at ei fflat, ei ddiswyddo gan yr heddlu.