Fe fydd y Canghellor Rishi Sunak yn amlinellu ei gynlluniau i ddiogelu swyddi wrth i’r gwrthbleidiau alw ar y Llywodraeth i wneud mwy i hybu’r economi yn sgil yr argyfwng Covid-19.

Mae disgwyl i’r Canghellor annerch Tŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Iau, Medi 24) ar ôl canslo’r Gyllideb eleni.

Wrth i’r cynllun ffyrlo, neu saib swyddi, ddod i ben ddiwedd mis Hydref, mae disgwyl iddo gyhoeddi mesurau i geisio diogelu miliynau o swyddi yn y sectorau sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan ganllawiau diweddaraf y Llywodraeth i fynd i’r afael a’r cynnydd mewn achosion o Covid-19.

Wrth i nifer yr achosion newydd gynyddu i fwy na 6,000, mae cyfyngiadau ehangach wedi dod i rym yng Nghymru a Lloegr heddiw, ac yn yr Alban ddydd Gwener. Yn ogystal mae’r ap sy’n olrhain pobl sydd â chysylltiad â Covid-19 wedi cael ei lansio, ar ôl cael ei ddileu yn gynharach eleni.

Daw cyhoeddiad Rishi Sunak yn sgil pwysau cynyddol gan grwpiau busnes, Aelodau Seneddol ac undebau i barhau gyda’r cynllun ffyrlo oherwydd pryderon y bydd y cyfyngiadau newydd yn niweidio’r economi.

Dywedodd Rhif 11 bod gwaith ar y cynllun wedi bod yn digwydd ar y cyd a pharatoadau’r Gyllideb gyda’r ffocws ar swyddi er mwyn osgoi tair miliwn rhag colli eu gwaith.

Yn ôl adroddiadau, mae disgwyl i’w gynlluniau gynnwys toriadau TAW, benthyciadau ar gyfer busnesau a chymorth gyda chyflogau.

Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Boris Johnson yr wythnos hon y bydd yn rhaid i wledydd Prydain ymdopi gyda chwe mis arall o gyfyngiadau coronafeirws.

Ond yn ôl arweinydd yr wrthblaid Syr Keir Starmer mae’r cyfyngiadau Covid newydd o ganlyniad i fethiannau’r Llywodraeth.

Mae gweinidogion yn awyddus iawn i osgoi ail gyfnod clo ac effaith hynny ar yr economi.

Mae cynllun ffyrlo’r Llywodraeth wedi costio £39.3 biliwn hyd yn hyn, yn ôl y ffigurau diweddaraf.