Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad i fynd i’r afael â’r effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol a brofwyd gan gymunedau BAME yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn ymateb i adroddiad arall gan Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol Grŵp Cynghorol BAME Cymru ar Covid-19 gan yr Athro Emmanuel Ogbonna.

Roedd yr adroddiad yn gwneud dros 30 o argymhellion i fynd i’r afael â’r effeithiau, gyda rhai camau wedi cael eu cwblhau, ac eraill y mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo iddynt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno pecyn asesu risg Covid-19 gweithlu BAME Cymru, cyfieithu gohebiaeth Covid-19 i 36 o ieithoedd, ariannu llinell gymorth BAME ac wedi ymrwymo i lunio uned gwahaniaethau ar sail hil i bwyso am gydraddoldeb.

“Nawr yw’r amser i weithredu”

“Nawr yw’r amser i weithredu, ac mae’r llywodraeth hon yn ymrwymedig i greu etifeddiaeth barhaus i Gymru, lle caiff pawb eu trin yn deg a chael yr un cyfleoedd i ddatblygu”, meddai Mark Drakeford.

“Heddiw, rydyn ni’n cadarnhau o’r newydd ein hymrwymiad hirsefydlog i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb. Rydyn ni wedi edrych yn ofalus ac yn onest ar y strwythurau a’r systemau mewn cymdeithas ac wedi ystyried ble a sut y gallwn wneud newidiadau a fydd o fudd i bawb.

“Mae ein gwaith i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn mynd rhagddo a bydd yn darparu’r sylfaen er mwyn sicrhau newid systemig a chynaliadwy i Gymru. Bydd yn cael ei ddatblygu cyn diwedd tymor y Senedd hon.

‘Gwaith called ac angerdd’

Diolchodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i’r Athro Ogbanna a’r is-grŵp am eu gwaith.

“Mae’r gwaith caled a’r angerdd a ddangoswyd gan aelodau o is-grŵp yr Athro Ogbonna wedi bod yn hollbwysig er mwyn cyrraedd lle rydyn ni heddiw, a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt”, meddai.

“Mae’r adroddiad yn nodi llawer o’r materion y mae angen inni fynd i’r afael â nhw yn glir, ac yn gosod sylfaen bwysig ar gyfer y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru, y byddaf i yn ei arwain.

“Nid yw ein hymateb cychwynnol i’r adroddiad yn rhestr gynhwysfawr o’r camau sy’n cael eu cymryd, ond mae’n rhoi cipolwg ar ein cynnydd hyd yma yn erbyn ei argymhellion.

“Rydw i’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r Athro Ogbonna a’i dîm, yn ogystal â chynrychiolwyr o lawer o sefydliadau Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.

“Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau strwythurol a systemig y mae Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrif Ethnig yn eu profi yng Nghymru ac yn gweithio tuag at ein huchelgais o gael Cymru gyfartal, sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ac anghydraddoldeb.”