Mae’n “rhaid gwneud mwy” i fynd i’r afael â’r gwahaniaethu a’r anfantais a wynebir gan bobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yng Nghymru, meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Windrush heddiw (Mehefin 22), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn edrych ar sut mae’r coronafeirws wedi effeithio ar gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Mae Diwrnod Cenedlaethol Windrush yn dathlu cyfraniad yr ymfudwyr o’r Caribî ac eraill wedi ei wneud ym Mrhydain.

Mae’r adroddiad gan y Grŵp Cynghori Arbenigol ar BAME a Covid-19, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, yn edrych ar y rhesymau pam bod pobol o gymunedau BAME yn fwy tebygol o gael eu heffeithio’n wael gan y coronafirws.

Mae’r adroddiad yn cynnig mwy na 30 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, a dywedodd y Prif Weinidog bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried holl gynigion yr adroddiad.

“Difrifol a phwerus”

Wedi ei ysgrifennu gan yr Athro Emmanuel Ogbonna, dywedodd Mark Drakeford bod yr adroddiad yn un “difrifol a phwerus”.

“Mae’r adroddiad yn rhannu profiadau pobol o hiliaeth, diwylliant o wahaniaethu ar sail hil ac anghydraddoldebau strwythurol yng Nghymru”, meddai’r Prif Weinidog.

“Cyn i’r creisis coronafeirws ein taro, roeddem wedi comisiynu adolygiad o sut mae pobol yn cael eu penodi yma yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod y rheini sy’n cael eu penodi i wahanol swyddi yng Nghymru yn adlewyrchu’r amrywiaeth sydd yma yng Nghymru.”

Eglurodd Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gyda chyflogwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac undebau llafur er mwyn llunio asesiadau risg ar gyfer gweithwyr BAME.

“Rydym ni hefyd am weithio gydag Estyn er mwyn sicrhau fod eu hadolygiad nhw o hanes Cymreig yn cynnwys hanes BAME yng Nghymru a thu hwnt.”

Ychwanegodd hefyd fod llinell gymorth yn cael ei sefydlu i ddarparu arweiniad a chefnogaeth i gymunedau BAME mewn ymateb i’r pandemig.