Bydd yn rhaid i Lywodraeth y Deurnas Unedig ddatrys problem gyda Chredyd Cynhwysol sy’n achosi “caledi sylweddol” i ddegau o filoedd o deuluoedd ar ôl i’r llys apêl ddyfarnu ei fod yn “afresymegol”.
Mae’r broblem, y dywedodd y llys ei bod yn effeithio ar gynifer â 85,000 o bobl o bosibl, yn codi pan fydd y rhai sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn derbyn eu hincwm o’r gwaith ar ddiwrnod gwahanol oherwydd bod eu diwrnod cyflog arferol yn disgyn ar benwythnos neu ŵyl banc.
O ganlyniad, mae’r system weithiau’n cyfrif eu bod wedi cael eu talu ddwywaith mewn un cyfnod asesu, gan leihau eu taliad budd-daliadau yn sylweddol ac achosi amrywiadau mawr yn eu hincwm misol.
Mae hefyd yn lleihau eu lwfans gwaith, sy’n golygu eu bod yn cael llai o arian nag y byddai ganddynt hawl iddo fel arall.
Dywedodd pedwar mam sengl sy’n gweithio, a enillodd her yn yr Uchel Lys yn erbyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ym mis Ionawr y llynedd, fod y sefyllfa wedi eu gadael mewn trafferthion ariannol a’u bod wedi mynd i ddyled neu wedi cael eu gorfodi i ddibynnu ar fanciau bwyd.
Apeliodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys, ond gwrthodwyd hynny gan y Llys Apêl mewn dyfarniad ddydd Llun.
Dywedodd Y Fonesig Ustus Rose: “Mae’r achos hwn, yn fy marn i, yn un o’r enghreifftiau prin lle mae [gwrthod cynnig datrysiad] i’r broblem benodol hon mor afresymol nes fy mod wedi dod i’r casgliad bod y trothwy [ar gyfer gwrthod yr apêl] wedi ei gyrraedd[…]”
Daw’r dyfarniad wrth i hawliadau Credyd Cynhwysol gynyddu’n sylweddol yng nghanol pandemig Covid-19, gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau’n dweud bod mwy na 2,400,000 o hawliadau newydd wedi’u gwneud ers canol mis Mawrth.