Bydd tua 2,000 o werthwyr yn ôl allan yn gwerthu’r Big Issue yng Nghymru a Lloegr o 6 Gorffennaf, a hynny am y tro cyntaf ers 15 wythnos oherwydd y cyfyngiadau cloi.

Stopiwyd gwerthu ar y strydoedd ar 20 Mawrth, ac ers hynny mae’r cylchgrawn wedi bod ar gael mewn archfarchnadoedd a siopau eraill, yn ogystal â thrwy danysgrifiadau. Mae hyn wedi galluogi’r sefydliad i gynnal y cymorth ariannol a’r cymorth arall y mae’n ei roi i werthwyr.

Dywedodd y Big Issue eu bod wedi nodi cynllun iechyd a diogelwch ar gyfer gweithredu sy’n sicrhau bod gwerthwyr yn gallu gwerthu’r cylchgrawn yn ddiogel a bod cwsmeriaid yn gallu prynu’n ddibryder.

Offer diogelu personol

Mae’r cynllun yn cynnwys buddsoddi mewn offer diogelu personol ar gyfer gwerthwyr, a thaliadau digyswllt gyda cherdyn.

Dywedodd yr Arglwydd John Bird, sylfaenydd y Big Issue: “Ers diwedd mis Mawrth, rydyn ni wedi gwneud popeth yn ein gallu i newid, ac achub, y Big Issue yn ystod yr argyfwng Covid-19.

“Ein blaenoriaeth pennaf bob amser yw diogelwch a lles ein gwerthwyr.

“Rydym yn falch o fod yn gweithio tuag at fod yn ôl allan yn gwerthu ar ddydd Llun 6 Gorffennaf, gyda chynllun cadarn yn ei le sy’n rhoi tawelwch meddwl i ddarllenwyr a gwerthwyr fel ei gilydd.

“Dydyn ni ddim yn gallu aros i fod yn ôl. Mae ein gwerthwyr yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i werthu’r cylchgrawn i’n cwsmeriaid gwych.”