Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu er mwyn gwarchod pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal.

Daw hyn wrth gyhoeddi adroddiad newydd, Lleisiau Cartrefi Gofal: Ciplun o fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at broblemau a’r heriau mae preswylwyr a staff cartrefi gofal yn eu hwynebu’n ystod pandemig y coronafeirws.

Mae’r adroddiad wedi ei seilio ar brofiadau pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, eu teuluoedd a’u ffrindiau, a rheolwyr yn ogystal â staff cartrefi gofal.

“Dros y misoedd diwethaf rydym wedi gweld trychineb yn ein cartrefi gofal, ac mae wedi fy mhoeni i’n fawr nad ydy lleisiau pobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cartrefi gofal – yr arbenigwyr oherwydd eu profiadau – wedi cael eu clywed yn ddigonol,” meddai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE.

“Rwyf wedi defnyddio’r profiadau sydd wedi cael eu rhannu â mi er mwyn nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen ar draws nifer o feysydd allweddol i sicrhau bod y bobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal yn cael eu cefnogi a’u diogelu.

“Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb a rhannu eu profiadau â mi. Rwyf yn gwybod y byddai hyn wedi bod yn arbennig o anodd i rai ond mae hi’n hanfodol bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod wrth galon y trafodaethau a’r cynlluniau ynghylch beth fydd yn digwydd nesaf yn ein cartrefi gofal wrth i ni ddilyn y llwybr anodd sydd o’n blaenau.”