Mae rhagor o Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi cadarnhau na fydd ysgolion yn agor am wythnos ychwanegol ym mis Gorffennaf.

Cynllun gwreiddiol Llywodraeth Cymru oedd i ysgolion Cymru ailagor ar Fehefin 29 ac y byddai’r tymor yn cael ei ymestyn am wythnos hyd at Orffennaf 24.

Mae Golwg360 ar ddeall bod o leiaf saith o awdurdodau lleol yng Nghymru bellach wedi penderfynu cau drysau eu hysgolion am wyliau’r haf ar Orffennaf 17.

Dewis sydd wedi ei wneud gan nad ydy Llywodraeth Cymru a’r undebau llafur wedi gallu dod i gytundeb.

Hyd yn hyn mae Awdurdodau Lleol Caerffili, Casnewydd, Ceredigion, Blaenau Gwent, Gwynedd, Sir Fynwy a Wrecsam wedi penderfynu cau wedi tair wythnos, yn unol â’r dyddiad gwreiddiol ar gyfer diwedd y tymor, heb yr wythnos ychwanegol a argymhellwyd gan Llywodraeth Cymru.

Ni fydd ysgolion Sir Fôn yn ail agor o gwbl cyn yr haf oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion Covid-19 ar yr ynys.

“Mater i’r awdurdodau lleol”

“Ar ddiwedd y dydd mater i’r awdurdodau lleol yw hyn”, meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (Mehefin 22).

“Ein cynnig ni oedd i athrawon weithio wythnos ychwanegol cyn gwyliau’r haf, a chael yr wythnos yma [Gorffennaf 20 – 24] nôl yn yr Hydref.

“Ble mae’n bosib dylai ysgolion ailagor, a hynny er budd y disgyblion.

“Os nad yw awdurdodau lleol yn gallu agor mae hynny yn ddewis iddyn nhw fel cyflogwyr i’w wneud – dewis a ddylai gael ei wneud rhwng penaethiaid, staff a rhieni.”

Annheg gofyn i athrawon “wirfoddoli” 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi disgrifio gofyn i athrawon weithio wythnos ychwanegol fel un “annheg”, a hynny ar adeg pan mae “ysgolion yn wynebu mwy na digon o heriau.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Casnewydd: “Dydyn ni ddim yn bwriadu gofyn i athrawon a staff ein hysgolion ‘wirfoddoli’ yn ystod yr wythnos hon.

“Felly bydd ysgolion Casnewydd yn cau i ddisgyblion.”

Cyngor Sir Ceredigion yn “siomedig iawn”

Mewn datganiad at rieni mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dweud eu bod nhw’n “siomedig iawn” nad ydyn nhw’n gallu ail-agor am y bedwaredd wythnos.

“Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu sicrhau cytundeb gydag Undebau Llafur eu bod yn bwriadu ymestyn y tymor ysgol.

“Oherwydd hyn, byddai staff allweddol mewn ysgolion yn gweithio’n groes i’w contract cyflogaeth yn ystod y bedwaredd wythnos wirfoddol.”

“Eglurder i rieni”

Cyngor Gwynedd yw’r diweddaraf i gyhoeddi na fydd ysgolion yno ar agor am fwy na thair wythnos.

Dywedodd Cyngor Gwynedd ei bod nhw’n awyddus i roi eglurder i rieni.

“Credwn fod darparu’r eglurder i rieni, disgyblion ac ysgolion yn rhoi amser i deuluoedd baratoi ar gyfer cyfnod tair wythnos y tymor ysgol.

“Fel Cyngor, rydym yn ddiolchgar i staff ein hysgolion am eu gwaith caled a’u hymroddiad trwy gydol y cyfnod clo.

“Rydym yn deall nad yw Llywodraeth Cymru a’r undebau llafur wedi gallu cyrraedd safbwynt cyffredin eto ar y bedwaredd wythnos fel ymarfer gwirfoddol er gwaethaf trafodaethau estynedig.

“Nid yw Cyngor Gwynedd yn bwriadu gofyn i staff addysgu a staff ysgolion eraill wirfoddoli am y bedwaredd wythnos ychwanegol hon ac felly bydd ysgolion yn cau am wyliau’r haf ar 17 Gorffennaf fel y byddent wedi’i wneud yn wreiddiol.”