Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau na fydd ysgolion y sir yn agor am wythnos ychwanegol ym mis Gorffennaf.

Yn ôl y Cyngor byddai gwneud hyn yn mynd yn groes i gytundebau athrawon.

Cynllun gwreiddiol Llywodraeth Cymru oedd i ysgolion Cymru ailagor ar Fehefin 29 ac y byddai’r tymor yn cael ei ymestyn am wythnos hyd at Orffennaf 24.

Golygai hyn y bydd ysgolion yng Ngheredigion yn cau eu drysau am wyliau’r haf ar Orffennaf 17.

Pedwaredd wythnos wirfoddol

Mewn datganiad at rieni mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dweud eu bod nhw’n “siomedig iawn” nad ydyn nhw’n gallu ail-agor am y bedwaredd wythnos.

“Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu sicrhau cytundeb gydag Undebau Llafur eu bod yn bwriadu ymestyn y tymor ysgol.

“Oherwydd hyn, byddai staff allweddol mewn ysgolion yn gweithio’n groes i’w contract cyflogaeth yn ystod y bedwaredd wythnos wirfoddol.”

Gwrthwynebiad undebau

Mae mwyafrif ysgolion Cymru wedi bod ar gau ers Mawrth 20, ac mae undebau athrawon wedi mynegi eu pryderon am ail agor ysgolion ar Fehefin 29.

Dywedodd UCAC eu bod yn “gresynu’n fawr at y ffaith fod y Llywodraeth wedi anwybyddu barn yr undebau mai blynyddoedd 6, 10 a 12 ddylai fod wedi cael blaenoriaeth petai unrhyw ailagor cyn yr haf”.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru’r NEU, David Evans: “Mae’n ormod, yn rhy fuan”, ac mae arolwg gan Unsain yn dangos bod 72% o staff ysgolion yn credu na ddylai ysgolion ail agor tan fis Medi.