Mae miloedd o staff ysgolion ar draws Cymru yn credu y dylai ysgolion aros ynghau tan fis Medi.

Dywed dros 70% o staff cynorthwyol ar draws Cymru bod ail-agor ysgolion ar Fehefin 29 yn rhy gynnar, yn ôl arolwg gan undeb Unsain.

Roedd 3,780 o bobol wedi ymateb i’r arolwg, gan gynnwys cynorthwywyr dysgu, cogyddion, glanhawyr a gofalwyr.

Dangosa canlyniadau’r arolwg bod:

  • 72% yn credu na ddylai ysgolion ail agor tan fis Medi.
  • 78% yn credu mai’r gofid mwyaf yw sut y bydd modd ymbellhau’n gymdeithasol.
  • Dyw 72% ddim yn credu bod digon o staff glanhau i gadw ysgolion yn saff.
  • Dim ond 20% sy’n hyderus bod eu gweithle â’r staff, adnoddau ac arbenigedd i sicrhau bod yr holl fesurau iechyd a diogelwch ac asesiadau risg mewn grym.

Dywed Unsain bod canlyniadau’r arolwg wedi ysgogi Llywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth a phwysleisio eu hymrwymiad i gydweithio gydag undebau Llafur.

“Mae canlyniad yr arolwg yn dangos y graddfa o bryder sydd ymysg staff cynorthwyol ysgolion,” meddau Cadeirydd fforwm Unsain, Jonathan Lewis.

“Mae Unsain yn credu y dylai ysgolion ddychwelyd fis Medi, ond wneith hynny ddim ein rhwystro rhag trafod â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ac ysgolion i sicrhau bod ysgolion mor saff ag sy’n bosib.”