Mae’r gwaith cynhyrchu bwyd mewn ffatri prosesu ieir yn Llangefni, Ynys Môn wedi dod i stop ar ôl i nifer o staff gael eu taro’n wael gyda Covid-19.
Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd undebau eu bod nhw’n ymwybodol bod 13 o achosion ymhlith staff yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni, a bod 110 o bobl yn hunan-ynysu fel rhagofal.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni mai iechyd, diogelwch a lles eu staff yw’r flaenoriaeth a’u bod yn “gwneud y peth iawn” drwy roi’r gorau i gynhyrchu ar eu safle yn Llangefni am 14 diwrnod.
Nid yw’r cwmni wedi cadarnhau faint o achosion o’r coronafeirws sydd yn y ffatri ond bod yr achos cyntaf wedi cael ei adrodd ar Fai 28 a bod system o weithredu’n ddiogel wedi bod mewn lle ers dechrau mis Mawrth.
Fe fydd y gwaith cynhyrchu yn cael ei symud i safleoedd eraill y cwmni hyd at Orffennaf 2. Mae’r ffatri yn cyflogi 560 o bobl.
Mae’r cwmni’n un o’r cynhyrchwyr bwyd mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac yn gwasanaethu brandiau fel Fox’s Biscuits a Holland’s Pies, yn ogystal ag archfarchnadoedd, KFC a Marks & Spencer.
Mae’r cyngor wedi dweud bod ymdrechion i fynd i’r afael a’r achosion yn cael blaenoriaeth.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi: “Rydym yn meddwl am weithwyr y ffatri Two Sisters a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod pryderus ac ansicr hwn. Rydw i eisiau iddynt wybod ein bod yn cydweithio gyda phob asiantaeth allweddol arall er mwyn gwneud popeth o fewn ein gallu iddynt.”
“Gyda nifer sylweddol o achosion o’r Coronafeirws wedi eu cadarnhau ymysg y gweithwyr – mae hyn yn flaenoriaeth, nid yn unig i ni ym Môn ond ar gyfer Gogledd Cymru i gyd. Mae ein staff yn cydweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n arwain ar y sefyllfa, ac yn cymryd camau positif er mwyn sicrhau datrysiad cyn gynted â phosibl.”