Mae pobol y Rhondda yn “grac” ac yn “rhwystredig” yn dilyn llifogydd yno am y trydydd tro eleni, yn ôl yr Aelod o’r Senedd Leanne Wood.
Yn sgil glaw trwm ddydd Mercher (Mehefin 17) mae tua 200 o gartrefi wedi’u heffeithio ym mhentrefi Pentre, y Maerdy a Threherbert.
Daw hyn rai misoedd wedi i Gwm Rhondda gael ei tharo’n wael gan Storm Dennis ym mis Chwefror, ac yn ôl Leanne Wood mae pobol leol wedi blino’n lan.
Mae hithau wedi dweud ei “fod yn glir bod problem fawr yma”, ac mae wedi galw ar yr awdurdodau i ymchwilio i’r mater.
“Mae angen cynnal ymchwiliad i ddarganfod pam bod yr ardaloedd yma, yn sydyn reit, yn wynebu’r bygythiad o lifogydd – a pham eu bod yn fregus yn hynny o beth,” meddai.
“Er gwaetha’r ffaith bod cyfyngiadau’r pandemig Covid-19 mewn grym, dylai [ymchwiliad] fod wedi cael ei gyflawni yn barod.
“Mae’n siomedig nad yw’n gwaith yma eisoes wedi’i gwblhau, ond mae’r hyn sydd wedi digwydd dros y 24 awr ddiwethaf yn dangos nad oes modd oedi ymhellach…”
Angen “enbyd” am gymorth
Mae’r Swyddfa Dywydd yn darogan rhagor o dywydd garw heddiw (Mehefin 18), ac mae dau rybudd melyn mewn grym mewn rhannau o Gymru.
Mae yna angen “enbyd am gymorth gan awdurdodau gwahanol” er mwyn rhwystro rhagor o lifogydd, meddai’r Aelod o’r Senedd.
Yn benodol mae am weld bagiau tywod yn cael eu dosbarthu, ac mae am i ddraeniau’r ardaloedd yma gael eu glanhau.
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.