Mae ’na bryder bod y cwmni Go Outdoors, sy’n berchen i JD Sports, am gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.
Mae JD Sports wedi cael gorchymyn llys er mwyn sicrhau nad yw credydwyr yn gallu cymryd camau cyfreithiol heb ganiatâd y llys am 10 diwrnod, tra eu bod nhw’n penderfynu beth i’w wneud gyda’r busnes.
Mae Go Outdoors, sy’n cyflogi 2,400 o bobl ar draws y Deyrnas Unedig, yn gwerthu dillad ac offer ar gyfer gwersylla a cherdded.
Fe fu’n rhaid cau 67 o’i siopau yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws ac mae’r busnes yn dibynnu’n helaeth ar ei siopau am y rhan fwyaf o’i werthiant. Dywed y cwmni eu bod wedi wynebu “heriau sylweddol” yn ystod cyfnod y pandemig.
Daw’r newydd yn dilyn adroddiadau dros y penwythnos bod JD Sports ar fin rhoi’r busnes yn nwylo’r gweinyddwyr.
Dyweodd JD Sports heddiw (Dydd Llun, Mehefin 22) nad ydyn nhw wedi penodi gweinyddwyr ar hyn o bryd.
Roedd J D Sports wedi prynu Go Outdoors am £112miliwn yn 2016.