Mae bachgen 15 oed wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad  beic modur yn Abertawe yn ystod oriau man fore dydd Llun (Mehefin 22).

Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i’r gwrthdrawiad difrifol yn Stryd Dillwyn, Abertawe, ger mynediad archfarchnad Tesco tua 1:30 fore bore ma.

Nid oedd cerbyd arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

Mae’r bachgen yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys.

Cafodd Stryd Dillwyn ei chau tra bod yr heddlu’n cynnal eu hymchwiliad.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un oedd wedi gweld neu sydd â lluniau dash-cam o’r gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod 219212.