Ffactorau “cymhleth a hirsefydlog” sy’n cyfrannu at y ffaith fod y coronafeirws yn cael effaith ar gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Mehefin 22), yn datgelu nifer o ffactorau sy’n cyfrannu at yr effaith “anghymesur” mae’r coronafeirws yn ei gael ar gymunedau BAME yng Nghymru.

Grŵp cynghori arbenigol ar BAME a COVID-19, a gafodd ei sefydlu gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford sy’n gyfrifol am yr adroddiad.

Cafodd y grŵp ei sefydlu er mwyn edrych ar y rhesymau pam y mae pobl o gymunedau BAME yn fwy tebygol o ddioddef effeithiau difrifol yn sgil y coronafeirws.

Y Barnwr Ray Singh a Dr Heather Payne sy’n cadeirio’r grŵp ar y cyd ac mae dau is-grŵp, gydag un ohonynt yn ymchwilio i ffactorau economaidd-gymdeithasol.

Mae’r grŵp wedi gwneud dros 30 o argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r risgiau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol sy’n cael eu crybwyll gan yr adroddiad.

“Hiliaeth ac anfantais”

“Mae thema gyffredin yn rhedeg drwy ein hymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn,” meddai’r Athro Emmanuel Ogbonna, a gadeiriodd yr is-grŵp.

“Mae’n ymwneud â hiliaeth ac anfantais sy’n ymestyn yn ôl i’r gorffennol, a diffyg cynrychiolwyr BAME o fewn y broses benderfynu.

“Mae’r pandemig coronafeirws, ar un agwedd, yn datgelu canlyniadau’r diffyg gweithredu ar gydraddoldeb hiliol.

“Mae llawer o’r materion yr ydym wedi tynnu sylw atynt wedi cael eu nodi a’u trafod o’r blaen, ond ni fu gweithredu i’w datrys mewn unrhyw ffordd systematig na chynaliadwy.”

Wrth ymateb i adroddiad yr Athro Ogbonna, dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Cafodd y grŵp cynghori ei sefydlu i ymchwilio i’r gwahanol ffactorau economaidd-gymdeithasol sy’n hanfodol ar gyfer sicrhau canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl o gefndiroedd BAME.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Athro Ogbonna ac aelodau’r is-grŵp am eu gwaith prydlon a manwl a hefyd eu hargymhellion.”

Mae’r ffactorau risg economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol allweddol sy’n cael eu crybwyll yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Cyfathrebu gwybodaeth am iechyd, ac effeithiolrwydd yr wybodaeth honno.
  • Materion diwylliannol o ran pa mor addas yw gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer cymunedau BAME.
  • Ansicrwydd incwm a chyflogaeth, sy’n effeithio mewn modd anghymesur ar gymunedau BAME.
  • Ansawdd gwael data ethnigrwydd, sy’n llesteirio gwaith dadansoddi manwl a chywir.
  • Tai gorlawn a’r amgylchedd.
  • Y baich ariannol sy’n cael ei greu gan statws mudo.
  • Rôl hiliaeth ac anfantais strwythurol a systemig.