Roedd dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o’r ymosodiad brawychol yn Reading ddydd Sadwrn, wedi dod i sylw MI5 y llynedd, yn ôl ffynonellau diogelwch.

Cafodd y dyn 25 oed, sydd wedi cael ei enwi fel Khairi Saadallah, ei arestio yn agos at Erddi Forbury yn Reading lle cafodd tri pherson eu lladd yn dilyn ymosodiad gyda chyllell.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac yna ei arestio o dan y Ddeddf Frawychiaeth sy’n rhoi’r hawl i’r heddlu ei gadw yn y ddalfa heb gyhuddiad am 14 diwrnod.

Mae dau berson arall gafodd eu hanafu yn yr ymosodiad yn parhau yn yr ysbyty, tra bod un person arall bellach wedi cael gadael yr ysbyty.

Rhyddhau o’r carchar

Daeth i’r amlwg ddydd Sul (Mehefin 21) bod y dyn, a oedd wedi ffoi rhag y rhyfel yn Libya, wedi dod i sylw MI5 y llynedd, ond nad oedd y wybodaeth ddaeth i law yn ddigonol i gynnal ymchwiliad.

Mae’n debyg bod iechyd meddwl y dyn yn cael ei ystyried fel un o’r prif ffactorau yn y digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r ymosodiad.

Roedd wedi cael ei garcharu ym mis Hydref y llynedd am gyfres o droseddau oedd ddim yn ymwneud a brawychiaeth cyn i’w ddedfryd gael ei ostwng yn y Llys Apêl.

Cafodd ei ryddhau o’r carchar yn gynharach y mis hwn ar ôl treulio hanner ei ddedfryd dan glo.

Er bod y digwyddiad yn cael ei drin fel ymosodiad brawychol dywedodd dirprwy gomisiynydd Heddlu Metropolitan Neil Basu nad yw’n glir ar hyn o bryd beth oedd y cymhelliad.

Munud o dawelwch

Mae’r athro ysgol James Furlong, 36, wedi cael ei enwi fel un o’r tri gafodd eu lladd, ynghyd a dyn 39 oed sydd wedi cael ei enwi’n lleol fel Joe Ritchie-Bennett. Mae’n debyg ei fod yn ddinesydd o’r Unol Daleithiau ond wedi symud i’r Deyrnas Unedig 15 mlynedd yn ol.

Yn ol teyrngedau ar gyfryngau cymdeithasol roedd Joe Ritchie-Bennett a James Furlong yn ffrindiau.

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i James Furlong a oedd yn gweithio yn Ysgol Holt yn Wokingham ac mae disgwyl i funud o dawelwch gael ei gynnal yn ddiweddarach i gofio’r tri gafodd eu lladd.