Mae tua 158 o achosion o’r coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yn ffatri prosesu ieir 2 Sisters yn Ynys Môn, yn ôl awdurdodau iechyd.

Daeth y gwaith cynhyrchu i ben yn y ffatri yn Llangefni ddydd Iau ar ôl i achosion o Covid-19 ddod i’r amlwg a staff yn cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu am bythefnos.

Dros gyfnod o 24 awr hyd at 3pm ddydd Sul (Mehefin 21) roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi cynnydd o 83 o achosion positif, gan ddod a’r cyfanswm o achosion i 158.

Roedd wedi cofnodi 75 o achosion cyn hynny.

Dywedodd Dr Christopher Johnson, ymgynghorydd diogelu iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Ers i ni ddechrau cynnal profion ddydd Iau, mae dros 400 o aelodau o staff wedi darparu samplau hyd yn hyn. Mae’r gwaith o gynnal profion ar staff yn parhau ac mae’n debygol y bydd achosion ychwanegol yn dod i’r amlwg yn y dyddiau nesaf.”

“Blaenoriaeth”

Roedd y 2 Sisters Food Group wedi cyhoeddi ddydd Iau eu bod yn “gwneud y peth iawn” drwy ddod a’r gwaith ar y safle yn Llangefni i ben am 14 diwrnod. Dywedodd y cwmni bod yr achos positif cyntaf yn y ffatri wedi cael ei gadarnhau ar Fai 28 a bod cynllun wedi bod mewn lle ar gyfer “gweithio’n ddiogel”  ers dechrau mis Mawrth.

Fe fydd y gwaith cynhyrchu yn y ffatri, sy’n cyflogi 560 o weithwyr, yn cael ei drosglwyddo i ffatrïoedd eraill y cwmni hyd at Orffennaf 2.

Dywedodd Dr Christopher Johnson bod y broses o brofi ac olrhain wedi helpu i atal lledaeniad pellach o Covid-19 yn lleol.

“Mae’n rhaid i ni gofio nad ydy Covid-19 wedi mynd,” meddai Dr Johnson gan bwysleisio’r pwysigrwydd o gadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol a mesurau glendid.

Dywedodd arweinydd Cyngor Môn Llinos Medi: “Gyda nifer sylweddol o achosion o’r coronafeirws wedi’u cadarnhau ymhlith y gweithlu, mae hyn yn flaenoriaeth nid yn unig i ni yn Ynys Môn, ond yng ngogledd Cymru i gyd.”

Hefyd ddydd Iau, roedd 38 o weithwyr yn ffatri fwyd Rowan yn Wrecsam wedi cael prawf positif am y firws, er bod penaethiaid yn dweud bod yr achosion yn dangos cynnydd yn yr ardal leol yn hytrach na chynnydd ar y safle.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn drafod y mater heddiw.