Mae cynghorydd sir yn ardal Ceinewydd yng Ngheredigion yn dweud bod ganddo fe “deimladau cymysg” wrth i siopau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol gael agor eto yfory yn dilyn llacio cyfyngiadau’r coronafeirws.

Ddydd Gwener (Mehefin 19), cyhoeddodd y prif weinidog Mark Drakeford:

  • y gall siopau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol agor yfory (dydd Llun, Mehefin 22) os oes modd cadw pellter cymdeithasol
  • y gall carafanau a llety gwyliau hunangynhwysol agor eto ar Orffennaf 13 os na fydd y feirws wedi gwaethygu erbyn hynny
  • y bydd y rheol teithio pum milltir yng Nghymru’n dod i ben ar Orffennaf 6 os yw cyfraddau’r feirws wedi cyrraedd lefel y mae modd ei rheoli

Er bod Dan Potter yn dweud bod busnesau’r ardal yn edrych ymlaen at gael agor eto, mae’n poeni y bydd diffyg twristiaid yn cael effaith niweidiol arnyn nhw yn y pen draw.

“Heb dwristiaid, fydd busnesau Ceinewydd ddim yn goroesi,” meddai’r cynghorydd wrth golwg360.

“Rydyn ni’n ffodus o gael bwtsiwr, siop fwyd a swyddfa’r post ond ar wahân i hynny, mae’r holl fusnesau eraill yn dibynnu’n llwyr ar dwristiaid.

“Mae pobol wedi cyffroi o gael agor eto ond am y tro, pobol leol o fewn radiws o bum milltir yn unig fydd yma.”

Dyfodol ansicr

Pe bai twristiaid yn cael mynd i Geinewydd o ganol Gorffennaf, mae Dan Potter yn dweud nad yw’n sicr y bydd hynny’n cynnig digon o amser i fusnesau wneud digon o elw er mwyn goroesi erbyn diwedd y tymor twristiaid gan y byddan nhw wedi colli symiau mawr o arian.

“Dw i wir ddim yn gwybod a fydd gyda ni ddigon o amser,” meddai.

“Mae Gorffennaf bythefnos i ffwrdd ac wedyn bydd gyda ni Orffennaf ac Awst ond ar ôl hynny, bydd Medi’n dawel pan fydd plant yn ôl yn yr ysgolion.

“Y cyfnod yma yw’r cyfnod pan fo’r rhan fwyaf o bobol gyda ni, ac mae’n ffenest mor fach.

“Pe baen ni wedi gallu cael y Pasg, gwyliau banc a’r Sulgwyn, byddai pawb wedi cael dechrau da iawn i’r tymor.

“Ond yn drist iawn, oherwydd y coronafeirws, does neb wedi cael dechrau da o gwbl.

“Maen nhw’n ceisio adfer, talu eu biliau ac mae unrhyw arian dros ben yn eich cario chi drwy’r gaeaf, ond fydd ganddyn nhw mo hynny chwaith.”

‘Rhwydd hynt i bawb’

Mae Dan Potter yn dweud ei fod e’n gofidio, pan ddaw’r amser i groesawu twristiaid eto, y gallai’r feirws ledu eto yn yr ardal.

“Y peth yw, pe bai pawb yn cael dod o Orffennaf 13, bydd rhwydd hynt i bawb wedyn, a dw i ddim yn siŵr mai dyna’r peth cywir neu beidio, a bod yn onest,” meddai.

“Mae gyda fi deimladau cymysg am y peth.

“Mae llawer o bobol leol yn poeni, yn enwedig yn sgil y cynnydd mewn achosion [yn y gogledd], ac rydyn ni i gyd yn poeni y gallai ddigwydd yma hefyd.

“Does neb wir yn gwybod beth allai ddigwydd, ac mae pryder mawr ymhlith trigolion lleol.

“Yr hyn dyw pobol ddim eisiau yw bo ni’n dechrau ymlacio a meddwl bod y peth wedi mynd i ffwrdd oherwydd, yn drist iawn, mae’n dal i fod yma a than bod triniaeth ar gael, allwn ni ddim gwneud unrhyw beth am y sefyllfa.”

Canmol yr awdurdodau lleol

Pan siaradodd Dan Potter â golwg360 ym mis Ebrill, fe ddywedodd ei fod yn poeni am effaith anwybyddu’r cyfyngiadau ar henoed yr ardal, gydag adroddiadau bod pobol yn ceisio osgoi’r heddlu drwy deithio i ail gartrefi yn y nos.

Ond mae’n dweud bod y sefyllfa wedi gwella cryn dipyn erbyn hyn, diolch yn bennaf i ymateb yr heddlu a’r cyngor.

“Mae’r Cyngor wedi gwneud gwaith arbennig o dda wrth warchod pobol yng Ngheredigion,” meddai.

“Ond rhaid cofio hefyd nad ydyn ni eisiau gwastraffu’r hyn sydd wedi cael ei wneud eisoes drwy gael pawb yma ar unwaith a rhoi pobol eraill mewn perygl.

“Mae llawer o ail gartrefi, llety gwyliau a gwestai yma.

“Ond rhaid canmol Ceredigion am wneud gwaith arbennig.

“Fyddai llawer o bobol ddim yn cytuno eu bod nhw wedi gwneud gwaith arbennig ond galla i eich sicrhau chi, o safbwynt lleol, eu bod nhw wedi bod yn wych wrth warchod pobol leol.

“A bod yn deg, mae’r heddlu wedi bod yn dda iawn hefyd wrth ymdrin â’r holl sefyllfaoedd sydd wedi codi o ran pobol yn sleifio i mewn i’r pentref.

“Dyw e ddim yn wir nad oedden ni eisiau i bobol ddod yma, fel dywedais i o’r blaen.

“Mae angen i bobol ddod yma er mwyn achub Ceinewydd yn nhermau twristiaeth, ond rhaid i ni warchod y bobol leol hefyd.”