Mae un person yn rhagor wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru, yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Sul, Mehefin 21).

Maen nhw’n adrodd bod 100 o achosion newydd wedi’u cofnodi.

Mae’n golygu bod cyfanswm o 1,477 o bobol wedi marw yn y wlad ers dechrau’r ymlediad, gyda 15,126 o bobol wedi’u heintio.

Ond dydy’r ffigurau ddim yn fanwl gywir yn sgil y ffordd maen nhw’n cael eu hadrodd a’u cofnodi.