Wrth ymateb i’r cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y bydd ysgolion yn agor i bawb o 29 Mehefin, mae undebau athrawon wedi bod yn mynegi eu pryderon.
Dywedodd UCAC eu bod yn “gresynu’n fawr at y ffaith fod y Llywodraeth wedi anwybyddu barn yr undebau mai blynyddoedd 6, 10 a 12 ddylai fod wedi cael blaenoriaeth petai unrhyw ailagor cyn yr haf”.
Ac mae undebau eraill wedi ategu’r neges honno.
NEU Cymru
“Mae’n ormod, yn rhy fuan” meddai Ysgrifennydd Cymru’r NEU, David Evans.
“Er y bod posib rhannu grwpiau blwyddyn yn grwpiau llai, a dechrau ar gyfnodau gwahanol, [ac y gallai hyn] olygu mai dim ond traean o’r disgyblion fydd yn bresennol ar unrhyw un adeg, yn yr ysgolion uwchradd mawr bydd hyn yn golygu cannoedd o ddisgyblion.
“Ynghyd a’r holl anawsterau logistaidd a ddaw yn sgil ymbellhau cymdeithasol, glanhau safleoedd, goblygiadau teithio, argaeledd PPE a bygythiadau o drosglwyddo’r firws.
“Er bod ysgolion cynradd yn tueddu i fod yn llai, gallai arwain o hyd at nifer sylweddol o ddisgyblion yn bresennol ar draws pob grŵp oedran.
“Gwyddom fod ffactorau megis ymbellhau cymdeithasol bron yn amhosibl i’r plant ieuengaf.”
Unsain
Ma undeb Unsain hefyd yn pryderu am hawliau’r staff – nid yn unig yr athrawon, ond yr holl weithwyr ychwanegol sydd yn gweithio mewn ysgolion.
“Mae Unsain wedi parhau i fod yn rhan o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch ailagor ysgolion” medai Rosie Lewis, Trefnydd Unsain ac arweinydd ysgolion.
“Mae iechyd a diogelwch yn parhau i fod yn hanfodol bwysig drwy gydol yr argyfwng parhaus hwn.
“Gyda hyn mewn golwg, mae Unsain yn rhwystredig ac yn bryderus iawn fod cyhoeddiad y Gweinidog heddiw wedi rhoi blaenoriaeth i brofion gwrth-gorff i athrawon, ac eto nid oedd sôn am y gweithlu ysgolion ehangach.
“Mae hyn yn codi pryderon ynghylch sut y caiff y strategaeth ehangach ei rhoi ar waith ac a fydd y gweithlu addysg ehangach, y mae llawer ohonynt yn weithwyr benywaidd â chyflog isel, yn cael yr un ystyriaeth.
“Ni fydd y dull hwn yn gweithio, a mae perygl o ledaenu Covid-19.”
Cefnogaeth
Fodd bynnag, roedd Eithne Hughes, Cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru, yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru.
“Mae’n ddull gweithredu synhwyrol sy’n cydbwyso’r flaenoriaeth addysgol o ddod â phlant yn ôl i’r ystafell ddosbarth cyn gynted â phosibl gyda’r flaenoriaeth iechyd cyhoeddus o sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd mor ddiogel â phosibl,” meddai Dr Hughes.
“Mae ysgolion eisiau gallu cael rhywfaint o gyswllt wyneb yn wyneb â disgyblion fel y gallant weld pa mor dda y maent yn ymdopi ag addysg o bell a darparu unrhyw gymorth y gallent fod ei angen o ran eu lles.
“Mae’r syniad o gyflwyno niferoedd bach o ddisgyblion ar unrhyw un adeg i ddarparu sesiynau gwirio, ac ymestyn tymor yr haf o wythnos i hwyluso’r ddarpariaeth hon, yn ateb ystyriol a phragmatig.
“Rydym yn ddiolchgar am y ffordd adeiladol y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â ni, a gallwn sicrhau rhieni bod pawb yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod plant yn dychwelyd i’r ysgol sy’n ddiogel ac yn effeithiol.”