Mae disgwyl i Boris Johnson gyhoeddi ddydd Mawrth (Mehefin 23) gynlluniau i ail-agor y sector lletygarwch o Orffennaf 4 ac amlinellu a fydd y rheol o gadw dau fetr ar wahân yn cael ei llacio yn Lloegr.
Fe fydd y Prif Weinidog yn trafod y newidiadau posib gyda’r pwyllgor strategaeth Covid 19 heddiw (Dydd Llun, Mehefin 22) ynghyd a’r prif ymgynghorydd gwyddonol Syr Patrick Vallance a phrif swyddog meddygol Lloegr yr Athro Chris Whitty.
Fe fydd wedyn yn amlinellu ei gynlluniau yn y Senedd ddydd Mawrth i ail-agor tafarndai, bwytai, gwestai a siopau trin gwallt ar Orffennaf 4. Mae’n debyg y bydd y rheolau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu llacio er mwyn hybu’r economi.
Mae disgwyl i’r rheol o gadw pellter o ddau fetr gael ei haneru i un metr.
Dywedodd Boris Johnson ddydd Sul bod y coronafeirws “o dan reolaeth” .
Fe fydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi ar gyfer pob sector ynglŷn â sut gall y busnesau leihau lledaenu Covid-19 pan fyddan nhw’n agor.