Mae pobol ledled Cymru a Lloegr yn cael eu hannog i lawr lwytho ap Covid-19 i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws.

Yn dilyn treialon cadarnhaol mae’r ap yn lansio heddiw (Medi 24) ac yn gweithio ochr yn ochr â’r system olrhain cysylltiadau yng Nghymru.

Bu dryswch ddechrau’r wythnos wedi i lefarydd ar ran Rhif 10 Stryd Downing ddweud na fyddai’r ap yn olrhain cyswllt.

‘Annog pawb i lawr lwytho a defnyddio’r ap’

“Mae lansiad ap Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd yn rhan bwysig o ymateb Cymru i’r coronafeirws”, meddai’r Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething.

“Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda thîm datblygu’r ap i sicrhau ei fod yn gweithio’n hwylus ledled Cymru a Lloegr, gan roi cyngor priodol i bobol yn seiliedig ar ble maen nhw’n byw.

“Yng Nghymru, bydd yr ap yn ategu ein gwasanaethau olrhain cysylltiadau a phrofi presennol a bydd yn rhoi cefnogaeth bellach i’n hymateb cydlynol i Covid-19 ar lefel leol a chenedlaethol.

“Rydw i wir yn annog pawb yng Nghymru i lawr lwytho a defnyddio’r ap i gadw Cymru’n ddiogel.”

Tracio’r feirws nid pobol

Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru mai tracio’r feirws nid pobol mae’r ap, a bod yr ap wedi cael ei gynllunio i warchod preifatrwydd defnyddwyr.

Bydd yr ap yn eich cynghori chi i hunan ynysu os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos wedi’i gadarnhau.

Nid yw’r ap yn cadw eich gwybodaeth bersonol.

Mae rhagor o fanylion am sut mae’r ap yn gweithio yma.

Apple a Google yn cynorthwyo

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Apple a Google:

“Rydyn ni wedi creu’r system hysbysiadau am gyswllt er mwyn cynorthwyo awdurdodau iechyd cyhoeddus gyda’u hymdrechion i ddatblygu apiau, i helpu i leihau lledaeniad y feirws a hefyd sicrhau bod pobol yn gallu ymddiried yn y dyluniad sy’n gwarchod preifatrwydd.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi ymdrech y llywodraeth i lansio ap yn seiliedig ar y dechnoleg hon.”

Mae rhwydweithiau symudol yn y Deyrnas Unedig hefyd wedi cadarnhau na fydd yr ap yn dod o lwfans data eu cwsmeriaid.

Mae ap gwahanol yn yr Alban ac yn Gogledd Iwerddon.