Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach wedi dweud y bydd ap Covid-19 y GIG sy’n cael ei lansio ddydd Iau (24 Medi) ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnwys y swyddogaeth olrhain cyswllt, er gwaethaf yr awgrym cynharach gan lefarydd Rhif 10 Stryd Downing na fyddai hynny’n wir.

Felly i atal dryswch o’r math a welwyd yn 10 Stryd Downing yn gynharach heddiw, dyma ateb ambell gwestiwn am yr ap…

Sut mae’r ap yn gweithio?

Bydd yr ap yn dibynnu ar Bluetooth o’ch ffôn i gadw log o bobl eraill sydd hefyd yn defnyddio’r ap pan fyddant yn agos atoch.

Mae’n gallu gwneud hyn drwy fesur cryfder signal Bluetooth, yn ogystal ag amseru am ba hyd yr oeddech yn agos at eich gilydd.

I gael eich ystyried yn ‘gyswllt agos’, mae’n gyffredinol yn golygu eich bod wedi bod o fewn dau fetr i rywun am 15 munud neu fwy, megis ar daith bws.

Mae’r ap yn cynhyrchu codau ar hap bob 15 munud sy’n cael eu pasio rhwng ffonau, sy’n golygu bod manylion pobol yn cael eu cadw’n gudd.

Os bydd person yn cyflwyno symptomau neu’n dod yn ôl gyda prawf cadarnhaol, bydd yr ap yn gofyn caniatâd i wirio eich codau gyda defnyddwyr apiau eraill, gan eu dosbarthu drwy system ganolog.

Os yw cod yn cyfateb i’r log sydd wedi’i storio ar ffôn person, mae’n golygu y gallent fod wedi contractio’r feirws ac felly fe’i cynghorir i hunanosod.

A fyddaf yn cael fy ngorfodi i osod yr ap ar fy ffôn?

Na, mae’r ap yn wirfoddol.

Hefyd, nid oes gan gyflogwyr y pŵer i orfodi gweithwyr i osod yr ap.

Ond siawns na fydd yn aneffeithiol oni bai ein bod ni i gyd yn defnyddio’r ap?

Yn ôl y GIG, mae’r holl dystiolaeth yn dangos, hyd yn oed ar lefelau is o ddefnydd, y gall yr ap helpu i arafu lledaeniad y feirws.

Ond y mwyaf o bobl sy’n ei ddefnyddio, y mwyaf effeithiol fydd yr ap.

Bydd olrhain cyswllt ’dynol’ traddodiadol yn dal i fod yn allweddol i ymdrech Profi ac Olrhain y GIG.

A fydd fy lleoliad yn cael ei olrhain?

Na, nid yw’r ap yn gofyn am ganiatâd i nodweddion GPS ar eich ffôn clyfar, sy’n golygu nad yw’n gallu olrhain eich symudiadau.

Nid yw’r ap ond yn gofyn am ganiatâd i ddefnyddio Bluetooth, y bydd angen ei droi ymlaen bob amser er mwyn iddo weithio’n iawn.

Mae hefyd yn gofyn am ganiatâd i ddefnyddio’r camera – mae hyn ar gyfer y codau QR i’w defnyddio mewn llefydd fel bwytai.

Oes angen i mi ddarparu unrhyw ddata personol?

Gofynnir i ddefnyddwyr ddarparu rhan gyntaf eu cod post yn unig, a ddefnyddir i arddangos lefel risg yr ardal yn yr ap.

Yr unig adeg y gofynnir i berson roi ei manylion llawn yw wrth ofyn am brawf coronafeirws.

Pa wledydd fydd ap Covid-19 y GIG yn eu cwmpasu?

Trigolion Cymru a Lloegr fydd yn defnyddio’r ap.

Mae’r Alban a Gogledd Iwerddon wedi gweithio ar eu apiau eu hunain.