Mae Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Aberystwyth wedi codi yn nhabl y Canllaw Prifysgolion Da.

Mae’r Canllaw, sy’n cael ei redeg gan y Times a’r Sunday Times, yn ystyried naw dangosydd.

Mae’r rhain yn cynnwys bodlonrwydd myfyrwyr ar ansawdd addysgu a’r profiad myfyrwyr ehangach, ansawdd ymchwil, rhagolygon i raddedigion, cymwysterau mynediad i fyfyrwyr newydd, canlyniadau graddau, cymarebau myfyrwyr/staff, gwariant ar wasanaethau a chyfleusterau, a chyfraddau cwblhau graddau.

Ac mae yno ganlyniadau cadarnhaol i holl brifysgolion Cymru eleni.

Mae Prifysgol Bangor wedi codi o’r 70ain safle i 62, gyda chyfraddau cwblhau graddau o bron i 84%, a sgôr profiad dysgu o 81%.

Roedd Bangor yn bedwerydd yng Nghymru, tra bod Abertawe yn ail yng Nghymru ac yn 36ain drwy’r Deyrnas Unedig.

Aberystwyth yw’r brifysgol orau yn y Deyrnas Unedig am ansawdd y dysgu a phrofiad myfyrwyr

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi codi o 45 i 42, ac mae’n drydydd yng Nghymru, tu ôl i Gaerdydd ac Abertawe.

Ond cafodd ei enwi fel y brifysgol orau yng Nghymru am safon dysgu a phrofiad myfyrwyr.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth Treasure: “Mae’r canlyniadau hyn yn dystiolaeth o’r gwaith caled iawn gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol.

“Mae cael ein cydnabod fel y Brifysgol orau yn y Deyrnas Unedig am ansawdd y dysgu a phrofiad myfyrwyr yn rhywbeth gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo.

“Hoffwn ddiolch i bawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth am eu cyfraniad tuag at gyflawni hyn.”

Glyndŵr ar dop y tabl cynhwysiant cymdeithasol

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw’r brifysgol fwyaf cynhwysol yn y Deyrnas Unedig, yn ôl y Canllaw Prifysgolion Da.

Cafodd y brifysgol ei graddio fel yr un orau yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig am gynhwysiant cymdeithasol.

Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Maria Hinfelaar: “Rydym yn falch iawn fod Good University Guide eleni wedi cydnabod y gwaith rydym yn ei wneud gyda chynhwysiant cymdeithasol.

“Mewn amseroedd cael mae egwyddorion y brifysgol, sy’n creu cymuned ar y campws ac oddi arno, yn sgleinio.”

Caerdydd yw’r Brifysgol orau yng Nghymru

Mae’r Canllaw Prifysgolion Da wedi enwi Caerdydd fel y brifysgol orau yng Nghymru.

Ac mae’r brifysgol yn yr un safle â’r llynedd yn y tabl drwy’r Deyrnas Unedig (34ain).

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi adennill ein statws fel prifysgol orau Cymru yng [nghanllaw 2021] The Times a The Sunday Times,” meddai Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr.

“Heb os, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o’r rhai mwyaf heriol i staff a myfyrwyr – ac mae’n parhau i fod yn heriol.

“Mae gweld perfformiad a gwelliannau parhaus yn deyrnged i ymrwymiad ac arbenigedd ein staff, ac mae’n golygu ein bod ni’n parhau i symud i’r cyfeiriad cywir.”