“Difrod i’r olwynion” a gafodd ei achosi gan broblem gyda’r brêc oedd yn gyfrifol am daflu’r trên oddi ar y cledrau ger Llangennech fis diwethaf, yn ôl archwilwyr.
Daeth deg wagen oddi ar y cledrau gan ollwng 330,000 litr o danwydd disel wrth i’r trên deithio drwy Langennech.
Roedd rhaid i 300 o bobol adael eu cartrefi, pan achosodd y trên dân mawr ym mis Awst.
Manylion
Dywedodd y Rail Accident Investigation Branch (RAIB) fod ymchwil cychwynnol yn dangos fod olwynion y trên yn “troi yn rhydd mwy na thebyg” pan adawodd purfa olew Robeston yn Aberdaugleddau, ac ar “ryw bwynt yn ystod y daith” fe wnaeth brêc y trydedd wagen ddod i rym.
Creodd hyn ran fflat ar rai o’r olwynion, gan anffurfio’r cledrau a thaflu’r drydedd wagan a phob un tu ôl iddi oddi ar y cledrau.
Daeth y locomotif a’r ddwy wagen gyntaf i stop tua 180 metr i lawr y lein.
Edrychodd y gyrrwr yn ei ôl a gwelodd fod “tân wedi dechrau” yn y difrod, cyn datgysylltu’r locomotif oddi wrth y wagen gyntaf a’i yrru tua 400 metr i ffwrdd, meddai RAIB.
Ni chafodd y gyrrwr ei anafu, a dywedodd wrth arwyddwr y rheilffordd am y ddamwain.
Roedd y trên yn teithio o gwmpas 30m.y.a pan ddigwyddodd y ddamwain.
Llygredd
Roedd pryderon y byddai’r disel yn tasgu i’r Afon Llwchwr ger llaw gan beryglu’r diwydiant pysgota cocos lleol, gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn argymell cau’r gwlâu cocos yn ardal yr aber.
Dywedodd y RAIB y bydd eu harchwiliad yn ystyried pam fod brêc y drydedd wagen wedi dod i rym ac asesu hanes cynnal a chadw’r wagen.
Yn ogystal, bydd yr ymchwiliad yn ystyried a wnaeth unrhyw ffactorau eraill achosi iddi gael ei thaflu oddi ar y cledrau, a sut arweiniodd hyn at ollwng y tanwydd ac achosi tân.
Roedd y trên, oedd yn eiddo i DB Cargo Uk, yn teithio i orsaf dosbarthu tanwydd yn Theale, Berkshire.