Dyma’r ffigurau diweddaraf ar gyfer y ‘gyfradd saith diwrnod’ o achosion Covid-19 newydd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 18 Medi, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru a phrofion a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.
Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.
Mae data ar gyfer y tri diwrnod diwethaf (Medi 19-21) wedi’i hepgor gan ei fod yn anghyflawn ac yn debygol o gael ei ddiwygio.
Y Rhondda
Yn Rhondda Cynon Taf, cofnodwyd 300 o achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 18 Medi – sy’n cyfateb i 124.3 fesul 100,000 o bobl. Dyma’r gyfradd uchaf yng Nghymru ac mae wedi cynyddu o 75.4 yn y saith diwrnod hyd at Fedi 11.
Merthyr
Merthyr Tudful, a fydd â chyfyngiadau newydd yn dechrau yfory, sydd â’r gyfradd uchaf ond un, i fyny o 74.6 i 117.7, gyda 71 o achosion newydd.
Caerffili
Caerffili sydd yn y trydydd safle, lle mae’r gyfradd wedi gostwng o 129.2 i 81.7, gyda 148 o achosion newydd.
Ardaloedd eraill y cloeon newydd
Ymhlith yr ardaloedd eraill sy’n wynebu cyfyngiadau newydd mae:
– Pen-y-bont ar Ogwr (i fyny o 26.5 i 61.9, gyda 91 o achosion newydd)
– Blaenau Gwent (i fyny o 27.2 i 65.8, gyda 46 o achosion newydd)
– Casnewydd (i lawr o 63.4 i 58.8, gyda 91 o achosion newydd)
Y rhestr lawn
O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr yn darllen: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 18 Medi; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 18 Medi; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Fedi 11; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Fedi 11.
Rhondda Cynon Taf 124.3 (300), 75.4 (182)
Merthyr Tudful 117.7 (71), 74.6 (45)
Caerffili 81.7 (148), 129.2 (234)
Blaenau Gwent 65.8 (46), 27.2 (19)
Pen-y-bont ar Ogwr 61.9 (91), 26.5 (39)
Casnewydd 58.8 (91), 63.4 (98)
Sir Gaerfyrddin 28.6 (54), 14.8 (28)
Ynys Môn 27.1 (19), 18.6 (13)
Caerdydd 27.0 (99), 22.6 (83)
Sir y Fflint 25.6 (40), 26.3 (41)
Sir Ddinbych 24.0 (23), 21.9 (21)
Abertawe 23.5 (58), 10.9 (27)
Conwy 23.0 (27), 29.9 (35)
Bro Morgannwg 22.5 (30), 9.0 (12)
Castell-nedd Port Talbot 12.6 (18), 16.7 (24)
Wrecsam 12.5 (17), 24.3 (33)
Torfaen 11.7 (11), 19.2 (18)
Gwynedd 9.6 (12), 18.5 (23)
Powys 9.1 (12), 31.0 (41)
Sir Fynwy 8.5 (8), 4.2 (4)
Sir Benfro 5.6 (7), 8.7 (11)
Ceredigion 2.8 (2), 13.8 (10)