Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd cloeon lleol yn cael eu cyflwyno ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd i fynd i’r afael a’r cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.
Maen nhw’n ymuno a Caerffili a Rhondda Cynon Taf sydd eisoes mewn clo lleol.
Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy’n byw yn yr ardaloedd hyn.
- Ni fydd pobol yn cael mynd i mewn i’r ardaloedd hyn na’u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i dderbyn addysg
- Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobol yn cael cwrdd â phobol nad ydynt yn byw gyda nhw. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o aelwyd estynedig
- Bydd rhaid i bob eiddo trwyddedig gau am 23:00
- Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do – fel yng ngweddill Cymru.
Fe fydd y cyfyngiadau yn dod i rym yn y pedair sir am 18:00 fory.
‘Penderfyniad anodd’
“Mae’r rhan fwyaf o achosion yn gysylltiedig â phobol yn cymdeithasu o dan do heb gadw pellter cymdeithasol”, meddai Vaughan Gething.
“Rydym yn gweld tystiolaeth bod y coronafeirws yn lledaenu ac mae angen inni weithredu er mwyn rheoli ac, yn y pen draw, leihau ei ledaeniad a diogelu iechyd pobol.
“Mae cyflwyno cyfyngiadau bob amser yn benderfyniad anodd ond nid yw’r coronafeirws wedi diflannu – mae’n dal i gylchredeg mewn cymunedau ledled Cymru ac, fel rydym yn ei weld mewn rhannau o’r De, gall clystyrau bach arwain yn gyflym at anawsterau gwirioneddol mewn cymunedau lleol.
“Mae angen cymorth pawb arnom i reoli’r coronafeirws.
“Mae angen i bawb gyd-dynnu a dilyn y mesurau sy’n cael eu rhoi ar waith i’ch diogelu chi a’ch anwyliaid.”
Ddydd Mawrth (22 Medi), bydd Llywodraeth Cymru yn galw cyfarfod brys o’r holl awdurdodau lleol, byrdd au iechyd a heddluoedd, o Ben-y-bont ar Ogwr i’r ffin â Lloegr.
Byddant yn trafod a oes angen mesurau pellach ar draws de Cymru, meddai Mr Gething.
Cynydd mewn achosion yn y de
Dros yr wythnos ddiwethaf mae nifer yr achosion wedi cynyddu mewn sawl sir yn y de.
Yn Rhondda Cynon Taf, cofnodwyd 300 o achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 18 Medi – sy’n cyfateb i 124.3 fesul 100,000 o bobl. Dyma’r gyfradd uchaf yng Nghymru ac mae wedi cynyddu o 75.4 yn y saith diwrnod hyd at Fedi 11.
Ym Merthyr mae 117.7 o achosion positif ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth.
61.9 yw’r ffigwr ym Mhen-y-bont, a 65.8 ym Mlaenau Gwent.
Mae’r ffigwr yng Nghasnewydd i lawr o 63.4 i 58.8, sy’n gyfradd uchel o hyd.
Ffigurau diweddaraf Cymru gyfan
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Llun, fod nifer yr achosion o Covid-19 wedi cynyddu gan 234, gan ddod â’r cyfanswm diwygiedig a gadarnhawyd i 20,878.
Dyma’r cynnydd dyddiol mwyaf mewn achosion ers 22 Ebrill, yn ôl dangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r cyfraddau wythnosol diweddaraf fesul ardal awdurdodau lleol i’w gweld yma.
Ymateb y Ceidwadwyr i’r cloeon lleol
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad mae Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, wedi galw ar weinidogion a awdurdodau lleol i wneud popeth posib i osgoi clo cenedlaethol.
“Byddai’r effeithiau ar iechyd cyhoeddus a’r economi yn drychinebus”, meddai.
“Mae angen i ni weld cloeon clyfar, hyper-leol yn seiliedig ar ddata cywir a manwl, ac ailddechrau amddiffyn yr henoed a’r rhai sy’n agored i niwed.
“Mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan drwy lynu at reolau ymbellhau cymdeithasol, gwisgo masgiau a glanhau ein dwylo, ac mae angen i ni weld ymgyrch gref gan Lywodraeth Cymru […] sy’n rhoi’r wybodaeth gyhoeddus gywir…”
Datganiad y prif swyddogion meddygol
Dywedodd prif swyddogion meddygol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn datganiad ar y cyd y dylai pob un o bedair gwlad y DU symud i Lefel 4 ar system rybudd Prydain.
Dywedodd y swyddogion: “Mae’r Gyd-ganolfan Bioddiogelwch wedi argymell y dylai lefel rhybudd Covid-19 symud o Lefel 3 (sef ‘Mae epidemig Covid-19 yn cylchredeg yn gyffredinol’) i Lefel 4 (sef ‘Mae epidemig Covid-19 yn cylchredeg yn gyffredinol; ac mae lefelau trosglwyddo yn uchel neu’n codi’n gyflym’).
“Mae Prif Swyddogion Meddygol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi adolygu’r dystiolaeth ac yn argymell y dylai pedair gwlad y DU symud i Lefel 4.
“Ar ôl cyfnod o lefel is o achosion a marwolaethau Covid, mae nifer yr achosion bellach yn codi’n gyflym…
“Os ydym am osgoi nifer sylweddol o farwolaethau ychwanegol a phwysau eithriadol ar y GIG a gwasanaethau iechyd eraill dros yr hydref a’r gaeaf mae’n rhaid i bawb ddilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol, gwisgo gorchuddion wyneb yn gywir a golchi eu dwylo’n rheolaidd.
“Gwyddom y bydd hyn yn newyddion pryderus i lawer o bobl; dilynwch y rheolau, gofalwch am ei gilydd, a gyda’n gilydd byddwn yn dod drwy hyn.”