Daw cadarnhad fod rhagor o ysgolion, colegau a meithrinfeydd ledled Cymru wedi cael eu heffeithio gan brofion positif o’r coronafeirws…

Conwy

Mae Ysgol Aberconwy yng Nghonwy wedi gofyn i holl ddisgyblion y chweched dosbarth hunanynysu ar ôl i ddisgybl yn y chweched brofi’n bositif am y coronafeirws.

Rhaid i holl ddisgyblion y chweched dosbarth hunanynysu am 14 diwrnod, a bydd eu haddysg yn parhau gartref yn ystod y cyfnod yn ôl datganiad ar wefan yr ysgol.

Mae’r prifathro, Ian Gerrard, wedi cadarnhau y bydd yr ysgol ar agor fel yr arfer i’r holl ddisgyblion eraill, sydd heb dderbyn gorchymyn i hunanynysu gan yr ysgol na’r gwasanaeth Profi ac Olrhain.

Aberhonddu 

Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau bod rhaid i leoliad blynyddoedd cynnar yn ne’r sir gau wedi i blentyn brofi’n bositif am y coronafeirws.

Mae Camau Bach Llanfaes yn Aberhonddu wedi cau wedi i’r awdurdodau ofyn i dri aelod o staff ac 14 o blant hunanynysu ar ôl i blentyn brofi’n bositif.

Bydd y lleoliad ar gau tan ddydd Gwener (Medi 25), a’r holl safle’n cael ei lanhau’n drylwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Addysg fod “lleoliadau addysg wedi rhoi camau yn eu lle i leihau’r perygl o’r coronafeirws yn ymledu, ond mae’n parhau i fod yn fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd.

“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i aros yn wyliadwrus a chadw pellter cymdeithasol, a pharhau i olchi ein dwylo’n aml i atal lledaeniad y feirws cymaint ag y gallwn.

“Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os ydyn nhw’n sâl neu os oes ganddyn nhw unrhyw dri o symptomau dynodedig Covid-19.

“Neu, os ydy’ch plentyn yn byw mewn cartref gyda rhywun sy’n dangos arwyddion neu sydd wedi profi’n bositif yn y 14 diwrnod diwethaf.

“Mae gan bob un ohonom ein rhan i’w chwarae er mwyn osgoi cynnydd sydyn yn y sir a’r posibilrwydd o ailgyflwyno mesurau cyfyngiadau symud.”

Dolgellau

Mae’r Cambrian News wedi adrodd bod myfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor Dolgellau wedi profi yn bositif am y coronafeirws.

Er hynny, mae’r campws yn Nolgellau yn parhau yn agored i’r holl fyfyrwyr eraill.

Daw’r newydd ar ôl i’r Daily Post adrodd bod darlithydd ar gampysau Dolgellau a Phwllheli Coleg Meirion Dwyfor wedi profi’n bositif yr wythnos ddiwethaf.