Bu Boris Johnson yn trafod yr ymateb i’r coronafeirws gyda phrif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon y prynhawn yma (dydd Llun 21 Medi), a hynny cyn cyhoeddi unrhyw gyfyngiadau pellach.

Daw hyn wedi i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ddweud: “Mae yna wagle wrth galon y Deyrnas Unedig a rhaid mynd ati ar frys i’w lenwi. Rhaid gwneud hynny fel ein bod yn medru siarad â’n gilydd, rhannu gwybodaeth, rhannu syniadau.”

Nid yw Prif Weinidog Prydain wedi trafod gyda Mark Drakeford ers galwad ffôn ar 28 Mai.

Cyn y cyfarfod, dywedodd llefarydd swyddogol Boris Johnson: “Un peth y bydd [Mr Johnson] yn ei wneud yw ailadrodd ei ymrwymiad i gydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig fel un Deyrnas Unedig mewn ymateb i’r cyfraddau heintio cynyddol rydym yn eu gweld ledled y DU.”

Bu Mr Johnson yn siarad â Mark Drakeford a Nicola Sturgeon ar wahân, gan hefyd siarad â Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Arlene Foster, a’i dirprwy, Michelle O’Neill, gyda’i gilydd.

Cafwyd cydnabyddiaeth gan lefarydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig y byddai’r misoedd nesaf yn anodd, gan ddweud ei fod yn debygol “o fod yn gyfnod gaeaf heriol”.

Cafodd Boris Johnson a’i Gabinet eu briffio ar ledaeniad y coronafeirws a’i effeithiau economaidd ddydd Sadwrn a chadarnhaodd llefarydd Stryd Downing y bydd pwyllgor Cobra yn ymgynnull ddydd Mawrth wedi i ‘hysbysiad galw’ am gyfarfod o’r pwyllgor gael ei gyhoeddi.

“Bydd Cobra yn digwydd fore yfory,” meddai’r llefarydd heddiw (21 Medi).

Bydd yr arweinwyr datganoledig yn cymryd rhan yn y cyfarfod hwnnw, a fydd o dan gadeiryddiaeth Mr Johnson.

Sylwadau Llywodraeth Cymru

“Siaradodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, â Phrif Weinidog Prydain y prynhawn yma”, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ar ôl y cyfarfod.

“Croesawodd Prif Weinidog Cymru’r cadarnhad y bydd cyfarfod Cobra rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig yfory.

“Rhoddodd Prif Weinidog Cymru’r wybodaeth ddiweddaraf i Brif Weinidog Prydain am y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yng Nghymru i reoli cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws ac i ddiogelu iechyd pobol yn rhannau o dde Cymru.

“Roedd y ddau yn cytuno bod angen i’r pedair gwlad gydweithio i drafod mesurau ledled y Deyrnas Unedig.”

Ategwyd hyn gan Downing Street yn dilyn y cyfarfod, gyda llefarydd yn dweud bod Boris Johnson ac arweinwyr y gweinyddiaethau datganoledig wedi cytuno i weithredu gydag “ymagwedd unedig, cymaint â phosibl” wrth fynd i’r afael â’r feirws.