Mae Helen Mary Jones AS, Dirprwy Weinidog yr Economi Plaid Cymru, yn mynnu mai fel dewis olaf y dylid dirwyo pobol sydd yn torri rheolau Covid-19.
Dyweda Plaid Cymru ei bod yn bwysicach helpu bobol i hunanynysu yn hytrach na’u dirwyo.
Gyda chyfyngiadau llymach wedi eu cyhoeddi ar gyfer chwe chyngor lleol erbyn hyn, mae Plaid Cymru wedi rhoi manylion eu blaenoriaethau er mwyn cynorthwyo’r cyhoedd i gadw at y rheolau:
- Rhagor o gymorth ariannol i deuluoedd sydd yn gorfod hunanynysu ac yn methu â gweithio gartref.
- Buddsoddi pellach mewn timau lleol a allai gynnig cefnogaeth a pherswadio unigolion i ddilyn canllawiau coronafeirws yn eu hardaloedd.
- Dirwyon ar gyfer unigolion sydd yn torri rheolau dro ar ôl tro, gyda’r ddirwy’n cynyddu gyda phob trosedd.
Cymorth ariannol
Mae Helen Mary Jones, Aelod Seneddol dros y Canolbarth a’r Gorllewin, yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain i gynnig cymorth ariannol i deuluoedd sydd yn gorfod hunanynysu ac sydd yn methu â gweithio o gartref.
Dywedodd fod rhaid peidio â rhoi gweithwyr mewn “sefyllfa amhosib” o ddewis rhwng parhau i weithio a hunanynysu a cholli incwm.
Gyda chynllun ffyrlo Llywodraeth Prydain yn dod i ben, a chyfyngiadau lleol mewn chwe awdurdod lleol, mae’r angen ar gyfer pecyn cymorth ariannol yn dra phwysig, yn ôl Plaid Cymru.
‘Penderfyniad anodd’
Dywedodd Helen Mary Jones na “ellid rhoi gweithwyr mewn sefyllfa amhosib lle mai’r unig opsiwn yw geithio er eu bod yn sâl, neu yn hunanynysu rhag ofn eu bod wedi cael eu heintio.
“Ac eto, heb becyn cymorth i’w cefnogi, bydd rhaid i deuluoedd wneud y penderfyniad anodd hwn.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros hyn,” pwysleisiodd.
“Os na fydd San Steffan yn ymestyn y cynllun ffyrlo i gefnogi cyfyngiadau clo lleol, yna mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar y gefnogaeth mae posib iddynt gynnig.
“Yn ogystal, mae’n bwysig bod gan dimau lleol yr adnoddau cywir, a’u bod wedi eu harfogi i gynorthwyo cymunedau lleol i gadw at gyfyngiadau clo.
“Gyda chwe awdurdod lleol nawr dan gyfyngiadau clo, mae’n bwysicach fyth nawr.
‘Opsiwn olaf’
“Heb roi cefnogaeth addas ar lefel leol yn gyntaf, mae’n annheg ystyried dirwyo pobol am dorri’r rheolau,” mynnodd Helen Mary Jones.
“Dylai dirwyon fod yn opsiwn olaf ar gyfer unigolion sydd yn ymddwyn yn hunanol er gwaethaf rhybuddion.
“Os yw’r unigolion rheiny yn parhau i roi eraill mewn perygl, yna dylid codi’r dirwyon ar gyfer bobol sydd yn troseddu dro ar ôl tro.”