Mae Prif Weinidog Cymru wedi ceryddu Boris Johnson a galw am gyfarfodydd rheolaidd ag ef.

Yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw, dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi siarad gyda Phrif Weinidog Prydain unwaith yn unig ers Mai 28 (galwad ffôn oedd hwnnw).

Tynnodd sylw at broblemau â’r sustem goleudy – sustem labordai profion y Deyrnas Unedig sydd mewn grym yng Nghymru – a phryderon ynghylch cyfyngiadau yn Lloegr a’r goblygiadau i Gymru.

A dywedodd y dylai’r fath faterion gael eu trafod gan bedair llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond “yn aml iawn yn ystod yr argyfwng yma does dim cyfle wedi bod i wneud hynny”.

Yn sgil yr wythnos “anodd” hon, galwodd unwaith eto ar i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ymdrechu i gyfathrebu â’r prif weinidogion eraill yn fwy rheolaidd.

“Mae angen i ni ymwneud â’n gilydd yn rheolaidd,” meddai. “Byddai jest un cyfarfod yr wythnos yn ddechrau.

“Dw i’n dadlau tros hyn nid oherwydd fy mod yn credu y dylwn ni gyd wneud yr un pethau. Trwy fod rownd yr un bwrdd dw i’n credu gallwn ni ddod at y penderfyniadau gorau i’r gwledydd rydym yn eu cynrychioli.

“Mae yna wagle wrth galon y Deyrnas Unedig a rhaid mynd ati ar frys i’w lenwi. Rhaid gwneud hynny fel ein bod yn medru siarad â’n gilydd, rhannu gwybodaeth, rhannu syniadau.”

Mae gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â gweinidogion Seisnig â’r un portffolios yn lled-rheolaidd, yn ôl Mark Drakeford.

Yr effaith ar ysgolion

Yn ddiweddarach yn y gynhadledd cododd cwestiynau ynghylch coronafeirws mewn ysgolion.

Datgelodd Mark Drakeford bod 66 disgybl wedi dal yr haint, 63 athro, a bod achosion wedi’u cadarnhau mewn 99 o ysgolion yng Nghymru.

Mi ddychwelodd disgyblion Cymru i’w hysgolion ar ddechrau’r mis.