Mae pennaeth cwmni yswiriant o Gymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhannu £10m ymysg ei staff wrth iddo ymddeol.

Bydd anrheg David Stevens, Prif Weithredwr Admiral, a’i wraig, Heather, yn cael ei rannu rhwng 7,500 aelod staff yn ne Cymru a 3,000 o weithwyr tramor.

Bydd gweithwyr llawn amser yn derbyn £1,000 gyda staff rhan amser yn derbyn £500.

Gŵr o’r enw Milena Mondini de Focatilis fydd yn olynu David Stevens.

Cafodd Admiral ei lansio yng Nghaerdydd gyda thîm o 57. Mae ei swyddfeydd eraill yn Abertawe, Casnewydd, a thramor yn Sbaen, yr Eidal, Ffrainc, Canada, yr Unol Daleithiau, ac India.