Oherwydd oedi pellach ni fydd gorsaf fysiau newydd Caerdydd wedi’i chwblhau tan ddiwedd 2022.

Y bwriad gwreiddiol oedd agor yr orsaf yn 2017.

Does dim gorsaf fysiau wedi bod yn y brifddinas ers i’r hen orsaf gael ei dymchwel yn 2015.

“Er gwaethaf heriau yn sgil Covid-19 mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen yn dda ar y safle”, meddai llefarydd ar ran ISG, y cwmni adeiladu sy’n adeiladu’r orsaf fysiau.

“Yn ddiweddar rhoddwyd caniatâd cynllunio i ychwanegu dau lawr arall i’r swyddfeydd uwchben yr orsaf fysiau, felly rydym nawr yn rhagweld y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn chwarter olaf 2022.”

Ar ôl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau, bydd yr adeilad yn cael ei drosglwyddo i Drafnidiaeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £15m yn prynu tir ar gyfer yr orsaf fysiau a bydd yn gwario £15m ychwanegol i ffitio’r adeilad – amcangyfrif bydd y gwaith yma yn cymryd rhwng chwech a naw mis.