Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod tri dyn wedi eu harestio yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd ym Mhowys.

Bore dydd Gwener (Medi 18) daeth yr heddlu o hyd i neges ar wefan Facebook yn awgrymu bod unigolion am ddefnyddio drylliau mewn ysgol yn ardal y Drenewydd.

Cadarnhaodd yr Heddlu fod yr unigolion yn lleol.

“Gweithredodd yr heddlu’n gyflym i fynd i’r afael â hyn, a arweiniodd at arestio tri dyn lleol, 20, 21 a 27 oed ar amheuaeth o gyfathrebu maleisus a throseddau trefn gyhoeddus”, meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys.

“Fel rhan o’r ymateb cychwynnol, rhoddwyd cyngor i ysgolion yr ardal i fod yn wyliadwrus.

“Yn ddealladwy, roedd pryder sylweddol gan bobol yn yr ardal, ac yn anffodus arweiniodd y sibrydion at gamddealltwriaeth.

“Arweiniodd hyn at alwadau at yr heddlu yn honni bod dyn â dryll wedi’i weld y tu allan i Ysgol Uwchradd y Drenewydd – oherwydd hyn anfonwyd uned arfog i’r ysgol.

“Gallwn gadarnhau nad oedd unrhyw ddyn yn yr ysgol.

“Mae’r heddlu hefyd wedi cynnal chwiliadau trylwyr o ganlyniad i’r arestiadau, ac ni ddaethpwyd o hyd i arfau.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr eglurhad hwn yn rhoi sicrwydd i gymuned y Drenewydd nad oes unrhyw fygythiad i ysgolion yn yr ardal, ac i’r heddlu ymdrin â’r mater o ddifrif ac yn gyflym.

“Rydyn ni hefyd yn apelio ar bawb i roi’r gorau i rannu unrhyw sibrydion cysylltiedig, er mwyn atal unrhyw ofn a larwm di-sail pellach yn yr ardal. ”

Cadw disgyblion y tu mewn

Mewn neges at rieni roedd pennaeth Ysgol Uwchradd y Drenewydd wedi dweud fod yr heddlu wedi gofyn i ysgolion yn y Drenewydd fod yn “wyliadwrus”, a’u bod wedi penderfynu cadw disgyblion y tu mewn.

Roedd gwersi olaf y dydd yn mynd yn eu blaenau fel arfer, ac roedd Tîm Plismona Cymdogaeth Leol hefyd yn bresennol yn yr ysgol ddiwedd y dydd.