Mae Jonathan Davies yn absennol o garfan y Scarlets sydd yn teithio i Ffrainc ddydd Sadwrn (Medi 19) ar gyfer gêm yn rownd wyth olaf cystadleuaeth Cwpan Her Ewrop.

Roedd Glenn Delaney, prif hyfforddwr y Scarlets, wedi awgrymu y byddai ar gael i’r rhanbarth.

Oherwydd anaf i’w ben-glin, dydy’r canolwr heb chwarae ers gêm y fedal efydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Japan y llynedd.

“Mae’r gêm yma fel rownd derfynol i ni”, meddai Glenn Delaney

“Os chi’n ennill tair rownd derfynol yn olynol byddwch chi’n ennill tlws.

“Rydyn ni mor agos i gyflawni’r hyn roedden ni wedi sôn amdano ddeuddeg mis yn ôl.

“Byddai’n hyfryd gorffen yr ymgyrch yma yn y ffordd iawn.

“Wrth chwarae am dlws mae’n rhaid i chi gymryd bob dim o ddifri, a dyna’n union mae ein bechgyn wedi bod yn gwneud.”

Mae Liam Williams, Rhys Patchell a Rob Evans hefyd yn absennol o’r garfan oherwydd anafiadau.

Scarlets: L. Halfpenny; J. McNicholl, S. Hughes, J. Williams, S. Evans; D. Jones, G. Davies; W. Jones, K. Owens, S. Lee, J. Ball, S. Lousi, B. Thomson, J. Macleod, S. Kalamafoni.

Eilyddion: R. Elias, P. Price, J. Sebastian, L. Rawlins, J. Davies, K. Hardy, A. O’Brien, T. Morgan.

Toulon: D. Ikpefan; M. Dakuwaqa, B. Heem, D. Paia’aua, G. Villiere; B. Serin, T. Takulua, J.B. Gros, A. Etrillard (capt), B. Gigashvili, S. Rebbadj, R. Taofifenua, C. Ollivon, R. Lakafia, S. Parisse.

Eilyddion: B. Soury, F. Fresia, E. Setiano, E. Dridi, B. Alainu’uese, J. Ory, L. Carbonel, F. Isa.